Monitro a gwerthuso effaith y strategaeth gwaith ieuenctid a’i chyflawni

URN: YW24
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro a gwerthuso effaith rhaglenni a gweithgareddau gwaith ieuenctid, gan gydnabod y gallai gymryd amser i fanteision positif ddod i’r amlwg. Byddwch yn cynnwys pobl ifanc yn llawn yn y broses, ynghyd ag unrhyw gydweithwyr, rhanddeiliaid neu sefydliadau eraill perthnasol sy’n gysylltiedig â’r gwaith ieuenctid sy’n cael ei fonitro.

Yn y safon hon, defnyddir y term ‘sefydliadau eraill’ i gyfeirio at yr holl asiantaethau, partneriaid a darparwyr perthnasol ac addas, gan gynnwys cymunedau lleol, sy’n allanol i’ch sefydliad chi.

Mae’r safon hon yn addas i ymarferwyr gwaith ieuenctid sy’n ymwneud â gweithio â phobl ifanc i fonitro a gwerthuso effaith gwaith ieuenctid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sicrhau bod y bobl ifanc yn defnyddio'r meini prawf ar gyfer gwerthuso canlyniadau gweithgareddau gwaith ieuenctid.
  2. sicrhau bod gan y bobl ifanc broses ar gyfer cofnodi eu gweithgareddau gwaith ieuenctid
  3. sicrhau bod y bobl eraill sy'n gysylltiedig â'r gweithgareddau gwaith ieuenctid yn rhoi adborth a thystiolaeth o'r cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt
  4. adolygu'r canlyniadau a gafwyd drwy'r gweithgareddau gwaith ieuenctid
  5. cymharu'r canlyniadau a gafwyd yn erbyn y meini prawf gwerthuso y cytunwyd arnynt
  6. cofnodi'r llwyddiannau a'r gwersi a ddysgwyd a defnyddio tystiolaeth ar gyfer cynllunio gwaith ieuenctid i'r dyfodol
  7. darparu tystiolaeth a gwybodaeth am effeithiolrwydd gweithgareddau gwaith ieuenctid i eraill, gan ddatgan a hyrwyddo'n glir natur y gweithgareddau a pham eu bod wedi cyflawni eu hamcanion
  8. cofnodi a chynnal tystiolaeth o fonitro a gwerthuso
  9. rhannu'r wybodaeth a'r dystiolaeth o werthuso ag eraill
  10. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid, a'u heffaith yn eich maes gwaith chi
  2. pwysigrwydd monitro a gwerthuso effaith gweithgareddau gwaith ieuenctid, a sut i wneud hyn, gan gynnwys y dystiolaeth sy'n ofynnol
  3. pwysigrwydd cynnwys pobl ifanc, cydweithwyr rhanddeiliaid a sefydliadau perthnasol eraill sy'n rhan o'r gweithgareddau, a'r dulliau o sicrhau eu cyfranogiad
  4. y dangosyddion, y dystiolaeth a'r meini prawf sy'n effeithiol ar gyfer gwerthuso canlyniadau a llwyddiant gweithgareddau gwaith ieuenctid
  5. ffynonellau tystiolaeth a gwybodaeth sy'n briodol i fonitro gweithgareddau gwaith ieuenctid, sut i gael gafael arnynt a dulliau o ddilysu a chadarnhau'r wybodaeth
  6. amcanion eich sefydliad o safbwynt y ddarpariaeth gwaith ieuenctid a'r gweithgareddau cysylltiedig
  7. pwysigrwydd hybu llwyddiant gwaith ieuenctid, a'r dulliau o gyflawni hyn, gan gynnwys lledaenu ymarfer gwaith ieuenctid effeithiol
  8. eich rôl a'ch cyfrifoldebau, ac oddi wrth bwy y dylid ceisio cymorth a chyngor pan fo angen
  9. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

LSI YW29

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; monitro; gwerthuso; cyfleoedd; datblygu; datblygiad; canlyniadau; tystiolaeth; ansawdd; materion; problemau; cymorth; cefnogaeth; cefnogi; amcanion; gwersi a ddysgwyd; mesur; adolygu; adolygiad