Ymgysylltu â phobl ifanc yn y broses o ddatblygu gwaith ieuenctid yn strategol

URN: YW23
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â helpu pobl ifanc i ystyried ffactorau sy’n effeithio ar y penderfyniadau sydd i’w gwneud a sicrhau eu bod yn gysylltiedig â’r broses o wneud penderfyniadau ac o asesu’r effaith a’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r penderfyniadau. Byddwch hefyd yn cynnwys pobl ifanc yn y gwaith o lunio mesurau perfformiad a’r technegau ar gyfer monitro gweithgareddau yn erbyn y rhain.

Mae cyfranogiad a chynnwys pobl ifanc yn rhai o’r gwerthoedd allweddol sy’n ategu’r safon hon, ac y disgwylir i weithwyr ieuenctid wybod amdanynt a’u gweithredu wrth eu gwaith.

Mae’r safon hon yn addas i ymarferwyr a rheolwyr gwaith ieuenctid sy’n ymgysylltu â phobl ifanc er mwyn dylanwadu ar y ffordd y caiff gwaith ieuenctid ei ddatblygu a’i gyflenwi’n strategol yn eu sefydliad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ymgysylltu â phobl ifanc a'u hannog i fynegi eu barn ynglŷn â'r ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn eu cymuned
  2. darparu i bobl ifanc wybodaeth am y ffactorau sy'n effeithio ar y ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn eu cymuned yn awr ac i'r dyfodol
  3. cytuno â'r bobl ifanc y meysydd blaenoriaeth i anelu adnoddau eich sefydliad atynt, ynghyd â rhesymeg y cytunwyd arni
  4. cynorthwyo pobl ifanc i bwyso a mesur y dewisiadau ar gyfer gweithgareddau gwaith ieuenctid er mwyn rhoi sylw i'r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt
  5. cytuno ar y dewis(iadau) a ffafrir â'r bobl ifanc
  6. ymgysylltu â phobl ifanc a'u cynnwys wrth weithio â rhanddeiliaid ac asiantaethau perthnasol i ddylunio a chyflawni'r dewisiadau a ffafrir
  7. cytuno â'r bobl ifanc ar fesurau perfformiad allweddol, a dulliau ar gyfer monitro a gwerthuso'r gweithgareddau a'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt
  8. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol sy'n effeithio ar waith ieuenctid
  2. pwysigrwydd cynnwys pobl ifanc yn y gwaith o ddatblygu gwaith ieuenctid strategol, a'r dulliau o gyflawni hyn
  3. pwysigrwydd cyfathrebu'n effeithiol â phobl ifanc, a sut i wneud hyn ar draws amrywiol grwpiau o bobl ifanc
  4. eich cymuned, y ffactorau sy'n effeithio ar y galw am waith ieuenctid ac anghenion a disgwyliadau pobl ifanc yn y gymuned
  5. ffactorau i'w hystyried wrth broffilio gwahanol gymdogaethau a risgiau posibl eraill rhag cyrraedd eich nodau
  6. asiantaethau eraill sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid yn eich cymuned, a nodweddion allweddol eu rhaglenni
  7. y prif ffactorau sy'n effeithio ar y tebygolrwydd o gael cefnogaeth i waith ieuenctid mewn cymunedau ac ymysg unigolion a'r dulliau o asesu'r ffactorau hyn
  8. anghenion a disgwyliadau eich sefydliad ac asiantaethau eraill, sy'n berthnasol i ddarparu rhaglenni gwaith ieuenctid
  9. ffynonellau gwybodaeth sy'n gallu helpu'r gwaith o flaenoriaethu adnoddau
  10. pwysigrwydd cysylltu â'ch cydweithwyr, pobl ifanc, partneriaid eraill, darparwyr ac asiantaethau wrth geisio cytuno ar feysydd blaenoriaeth a rhaglenni gwaith ieuenctid cysylltiedig
  11. sut i lunio mesurau a dulliau ar gyfer monitro a gwerthuso llwyddiant rhaglenni gwaith ieuenctid
  12. pwysigrwydd rhannu gwybodaeth rhwng unigolion ac asiantaethau
  13. dulliau o ledaenu ymarfer effeithiol ym maes gwaith ieuenctid
  14. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

LSI YW27

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; hwyluso; ymgysylltu; datblygu; datblygiad; cyflawni; strategaeth; polisi; gwneud penderfyniadau; cymryd rhan; cynnwys; blaenoriaethau; gweithgareddau; adnoddau gweithredu; cynlluniau; dewisiadau; opsiynau