Dylanwadu ar strategaeth gwaith ieuenctid a’i datblygu
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyflwyno gwybodaeth i ategu’r gwaith o lunio strategaeth, polisïau a gweithgareddau ar gyfer gwaith ieuenctid a ddarperir gan y sefydliad, yn ogystal â chyfrannu at adolygiadau a dylanwadu ar bolisi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Byddwch yn diffinio’r blaenoriaethau strategol ar gyfer gwaith ieuenctid, yn llunio cynllun strategol cysylltiedig ar gyfer cyflawni gwaith ieuenctid ac yn monitro’r gweithrediadau o safbwynt yr amcanion cyffredinol.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr gwaith ieuenctid sy’n ymwneud â chyfrannu at a dylanwadu ar strategaeth gwaith ieuenctid, megis gwneud awgrymiadau ar gyfer gwelliannau. Mae hefyd yn addas i’r rheini sy’n llunio strategaethau gwaith ieuenctid, yn blaenoriaethu adnoddau ac yn cynllunio ac yn cytuno ar raglenni cysylltiedig ar gyfer gwaith ieuenctid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cysylltu ag asiantaethau i gael gwybodaeth sy'n briodol i'r rhannau hynny o'r gymuned y mae eich sefydliad yn eu gwasanaethu
- canfod tueddiadau a datblygiadau yn niddordebau, anghenion a chyfranogiad pobl ifanc yn y gweithgareddau gwaith ieuenctid yn y gymuned, a'u heffaith ar y ddarpariaeth gwaith ieuenctid
- blaenoriaethu'r newidiadau sy'n ofynnol mewn polisïau, cynlluniau a gweithgareddau'n unol â'r graddau y maent wedi rhoi sylw i anghenion pobl ifanc
- asesu'r dewisiadau sydd ar gael ar gyfer dewis rhaglenni gwaith ieuenctid sy'n gydnaws â'r ardaloedd blaenoriaeth a'u hanghenion
- llunio argymhellion er mwyn gwella'r gweithdrefnau ar gyfer rhoi ar waith y gweithdrefnau a'r strategaeth gwaith ieuenctid
- diffinio a chytuno â'r bobl berthnasol y meysydd blaenoriaeth i anelu adnoddau eich sefydliad atynt
- asesu a dadansoddi'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r dewisiadau a gynigir gan gydbwyso'r risgiau a welwyd â'r canlyniadau dymunol
- cyflwyno argymhellion ar gyfer gwella strategaeth, polisi a darpariaeth y gwaith ieuenctid i'r bobl berthnasol
- chwilio am gyfleoedd i greu partneriaethau strategol a chysylltiadau ag asiantaethau eraill er mwyn cyrraedd y nodau gofynnol
- cytuno â'r partïon perthnasol y camau i ddatblygu cyfleoedd newydd a gweithgareddau cysylltiedig, a chamau gweithredu, adnoddau, rolau a chyfrifoldebau pawb sy'n rhan o'r gwaith
- defnyddio dulliau a mesurau perfformiad allweddol ar gyfer monitro a gwerthuso effeithiolrwydd strategaeth a rhaglenni y cytunwyd arnynt
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid, a'r effaith ar eich gweithgaredd chi
- dulliau o ddarogan tueddiadau a datblygiadau a nodi ffactorau a allai effeithio ar bolisïau a strategaethau mewn gwaith ieuenctid
- rôl eich sefydliad, ei weithgareddau, ei bolisïau, ei strategaethau a'i weithdrefnau
- pwysigrwydd cynllunio hirdymor a thymor canolig i lwyddiant eich sefydliad
- swyddogaethau, anghenion, disgwyliadau a gweithgareddau'r brif asiantaeth ac asiantaethau eraill mewn gwaith ieuenctid ac fel maent yn berthnasol i'ch sefydliad chi
- grwpiau cymunedol ac unigolion perthnasol sydd â budd yn natblygiad polisi a strategaeth gwaith ieuenctid a'r ffactorau sy'n effeithio ar eu cefnogaeth i waith ieuenctid
- yr egwyddorion a'r prosesau sy'n sail i'r broses o lunio strategaeth a pholisi a'r ffactorau a'r blaenoriaethau a allai ddylanwadu ar lunio'r polisïau a'u derbyn
- dulliau ac offer i ddadansoddi a gwerthuso'r wybodaeth berthnasol ac asesu'r goblygiadau, a dod i gasgliadau
- dulliau o gynnwys cymunedau ac asiantaethau, partneriaid a rhanddeiliaid eraill ac ymgynghori â nhw wrth gytuno ar flaenoriaethau a datblygiadau
- y problemau cyffredin y gellir eu hwynebu wrth geisio gweithredu strategaethau newydd
- sut i lunio cynlluniau a rhaglenni ar gyfer cyfleoedd gwaith ieuenctid sy'n nodi gweithgareddau, rolau, adnoddau a meysydd allweddol eraill
- yr adnoddau sydd ar gael i'ch sefydliad a'r ffynonellau gwybodaeth sy'n gallu helpu ar gyfer blaenoriaethu'r adnoddau
- sut i asesu'r risgiau posibl i gyrraedd y nodau a sut i liniaru'r risgiau hyn
- egwyddorion cyfrinachedd, a sut i lunio canllawiau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth rhwng unigolion ac asiantaethau
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau ac oddi wrth bwy y dylid ceisio cymorth a chyngor pan fo angen
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon