Sicrhau cyllid ac adnoddau ar gyfer gwaith ieuenctid

URN: YW21
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chanfod ffynonellau cyllid ac adnoddau eraill ar gyfer gweithio â phobl ifanc a meithrin perthnasoedd gwaith da â deiliaid cronfeydd posibl neu wirioneddol. Mae’n cynnwys llunio a chyflwyno cynigion am gyllid, neu ffurfiau eraill o gymorth, a thrafod telerau cynigion i ddiweddglo llwyddiannus. Byddwch hefyd yn sefydlu cynlluniau wrth gefn fel eich bod yn gallu lliniaru yn erbyn unrhyw brinder mewn cyllid.

Mae’r safon hon yn addas i ymarferwyr a rheolwyr gwaith ieuenctid sydd â chyfrifoldeb dros sicrhau cyllid i ddatblygu’r ddarpariaeth gwaith ieuenctid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sefydlu rhestr ddiweddar o unigolion a sefydliadau sy'n darparu adnoddau ar hyn o bryd, ac a fydd o bosibl yn darparu adnoddau ar gyfer gweithgareddau i'r dyfodol
  2. gwneud argymhellion a chynigion sy'n cynnwys yr holl gostau er mwyn cael y cyllid a'r adnoddau eraill sy'n ofynnol i gyflenwi'r gweithgareddau gwaith ieuenctid arfaethedig
  3. cytuno ar y cynigion a'r argymhellion gyda'r rhanddeiliaid perthnasol
  4. paratoi cynigion i'w cyflwyno i gyllidwyr posibl
  5. rhoi sylw i unrhyw geisiadau am wybodaeth ac eglurhad pellach
  6. cytuno ar drefniadau'r contract â'r cyllidwyr sy'n datgan telerau darparu'r adnoddau
  7. rhoi gwybod i'r holl bartïon perthnasol beth yw canlyniad y cynnig
  8. darparu i'r rheini a fydd yn defnyddio'r adnoddau wybodaeth am unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y cyllid
  9. gwneud cynlluniau wrth gefn i roi sylw i unrhyw broblemau ynglŷn â gofynion y gwariant
  10. gweithredu system ar gyfer monitro ffynonellau cyllid yn effeithiol
  11. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. canllawiau a chodau ymarfer ac unrhyw ofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a moesegol o safbwynt y mathau o gyllid a'r darparwyr cyllid ar gyfer gwaith ieuenctid
  2. amcanion, cynlluniau ac adnoddau eich sefydliad chi
  3. gweithgareddau arfaethedig eich sefydliadau, gan gynnwys y rheini y mae gofyn cael cyllid ac adnoddau ar eu cyfer
  4. rhanddeiliaid y sefydliad a'u barn am ariannu gweithgareddau'r sefydliad
  5. y mathau presennol o gyllid a'r darparwyr ac adnoddau sy'n eiddo i'ch sefydliad chi, a'r mathau eraill o gyllid a darparwyr posibl a'u manteision a'u risgiau cysylltiedig
  6. ffynonellau gwybodaeth am gyfleoedd i gael adnoddau, gan gynnwys rhai â'r sector statudol, y sector preifat, gwirfoddol ac elusennol
  7. sut i wneud achos busnes a hybu manteision y prosiectau gwaith ieuenctid arfaethedig
  8. cwmpas, yr adnoddau sydd ar gael a diben y corff ariannu'r ydych yn cysylltu ag ef, ac unrhyw gyfyngiadau y mae'n gweithredu danynt
  9. pa wybodaeth mae'r corff ariannu eisiau a'r fformat cywir ar gyfer cyflwyno'r cynnig
  10. pobl berthnasol yn eich sefydliad ac unrhyw randdeiliaid allweddol y dylid ymgynghori â nhw ar gynigion ac argymhellion ar gyfer cael cyllid ac adnoddau
  11. pwysigrwydd cyflwyno bidiau neu gynigion clir i ddarparwyr cyllid ac adnoddau eraill, ac chaniatáu digon o amser i ystyried
  12. y math o gytundebau y dylid eu rhoi ar waith â darparwyr cyllid a'r hyn y dylent roi sylw iddo
  13. y math o gamau y bydd angen eu cymryd o bosibl os ceir prinder cyllid
  14. pam bod angen sefydlu cynlluniau wrth gefn ar gyfer cael cyllid a'r math o hapddigwyddiadau a allai ddigwydd
  15. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

LSI YW26

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; cyllid; adnoddau; gweithgareddau; strategaeth; polisïau; adnabod; canfod; cynigion; rhanddeiliaid; darparwyr; gweithgareddau; cynlluniau; rhaglenni; wrth gefn; costau; risgiau