Diffinio, gwerthuso a blaenoriaethu amcanion eich sefydliad ar gyfer gwaith ieuenctid yn y gymuned
Trosolwg
Mae archwilio a nodi anghenion pobl ifanc a’r gymuned leol o safbwynt gwaith ieuenctid yn helpu i ddiffinio’r ddarpariaeth bresennol ac yn cyfrannu at ddatblygu a gwella’r ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn y gymuned.
Byddwch yn archwilio’r anghenion hynny â’r bobl ifanc, gan werthuso a dadansoddi a yw’r ddarpariaeth bresennol yn diwallu’r anghenion a welwyd.
Byddwch yn dod i gasgliadau ar sail eich canfyddiadau am anghenion pobl ifanc yn y gymuned. Byddwch yn gwneud argymhellion a fydd yn rhoi anghenion yn nhrefn eu blaenoriaeth yn unol â chylch gorchwyl a gallu’r sefydliad ei hun i ddarparu cyfleodd a gweithgareddau.
Bwriedir y safon hon ar gyfer y rheini sy’n ymwneud â llywio neu ddatblygu cynlluniau gweithredol gwaith ieuenctid yn eu sefydliadau, yn ogystal â’r rheini sy’n cyfrannu at ddatblygu a gwella’r ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn y gymuned.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- casglu'r wybodaeth sydd ar gael fel y gallwch asesu'r anghenion a'r ystyriaethau ynglŷn â'r ddarpariaeth gwaith ieuenctid
- diffinio lefel a natur y ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn y gymuned leol
- canfod anghenion pobl ifanc yn y gymuned er mwyn llywio'r gofynion ar gyfer y ddarpariaeth gwaith ieuenctid
- trafod a chytuno â phobl ifanc y cyfleoedd i wella a datblygu darpariaeth eich sefydliad
- canfod gofynion rhanddeiliaid ac asiantaethau i'r dyfodol drwy ymgynghori ynglŷn â'r ddarpariaeth i bobl ifanc
- cydgasglu ac asesu'r canfyddiadau, gan nodi'r tueddiadau a'r patrymau a fydd yn eich helpu â'ch gwaith cynllunio gweithredol
- chwilio am unrhyw fylchau yn narpariaeth bresennol eich sefydliad
- gwerthuso eich canfyddiadau, dod i gasgliadau a gwneud argymhellion ar gyfer yr amrywiol weithgareddau sy'n ofynnol gan bobl ifanc a'r gymuned, gan roi ystyriaeth i'r ymarferoldeb a'r manteision i'ch sefydliad
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol sy'n effeithio ar y ddarpariaeth gwaith ieuenctid, ac wrth ymchwilio i anghenion
- y mathau o wybodaeth y gallai pobl ifanc, asiantaethau perthnasol a rhanddeiliaid eraill ei darparu sy'n briodol i ganfod anghenion y gymuned oddi wrth waith ieuenctid
- dulliau o gael adborth gan bobl ifanc a rhanddeiliaid ac asiantaethau perthnasol, a'u manteision a'u hanfanteision cymharol
- y ffactorau sy'n dylanwadu ar y ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn y gymuned
- pwysigrwydd sicrhau gwrthrychedd wrth werthuso adborth a'r ffactorau i'w hystyried wrth asesu pa mor ddilys yw
- pwy yw'r asiantaethau a'r rhanddeiliaid perthnasol
- technegau ar gyfer dadansoddi gwybodaeth ansoddol a meintiol
- y cysyniad dadansoddi anghenion
- pwysigrwydd cynllunio hirdymor a thymor canolig er mwyn cyflawni amcanion eich sefydliad yn llwyddiannus
- sut i gael gafael ar ffynonellau gwybodaeth a chymorth i ymchwilio i anghenion y gymuned a chanfod cyfleoedd ar gyfer gwaith ieuenctid
- pwysigrwydd gwneud asesiad ariannol o'r cyfleoedd a welwyd, a sut i wneud hyn
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon