Meithrin diwylliant ac ethos sy’n hyrwyddo cynhwysiant ac sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth

URN: YW19
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae egwyddorion tegwch, amrywiaeth a rhyng-ddibyniaeth yn sail i’r holl ymarfer gwaith ieuenctid ac mae’n un o’r gwerthoedd y disgwylir i weithwyr ieuenctid wybod amdanynt a’u gweithredu wrth eu gwaith.

Mae’r safon hon yn ymwneud â meithrin diwylliant ac ethos yn eich sefydliad sy’n hyrwyddo cynhwysiant, cyfle cyfartal ac sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth. Byddwch yn gweithio â phobl ifanc a’ch cydweithwyr i sefydlu a sylfaenu diwylliant positif.

Mae’r safon hon yn addas i bob ymarferydd gwaith ieuenctid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. hyrwyddo diwylliant o gynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth i chi gyflawni eich rôl
  2. cynorthwyo pobl ifanc i feithrin gwybodaeth, parch a goddefgarwch at eraill ac amlinellu disgwyliadau eich sefydliad i'r perwyl hwn
  3. darparu i bobl ifanc wybodaeth am sut i gydnabod unrhyw broblemau neu bryderon ynglŷn â chynhwysiant, cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth yng nghyd-destun eich rôl a sut i weithredu ar hyn
  4. sicrhau bod y bobl ifanc a'ch cydweithwyr yn rhoi'r polisïau a'r gweithdrefnau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar waith
  5. rhoi sylw i unrhyw achosion o ymarfer neu ymddygiad gormesol neu wahaniaethol yr ydych chi'n ymwybodol ohonynt
  6. ymchwilio i gwynion gan ddilyn gweithdrefnau eich sefydliad
  7. ceisio cyngor ar gyfer delio ag achosion o ymddygiad gormesol neu wahaniaethol sydd y tu allan i'ch profiad neu derfynau eich cyfrifoldeb
  8. sicrhau bod polisïau ac ymarfer eich sefydliadau ar gynhwysiant ac amrywiaeth yn hybu ac yn cefnogi gwerthoedd gwaith ieuenctid
  9. cynorthwyo pobl ifanc i fyfyrio ar eu gwerthoedd eu hunain a rhoi cyfleoedd i brofi'r gwerthoedd hyn
  10. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol, rheoliadau, codau ymarfer ac ystyriaethau moesegol sy'n effeithio ar hybu cynhwysiant, cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth
  2. materion lleol, anghydraddoldebau strwythurol ehangach a ffactorau eraill sy'n effeithio ar gynnal cynhwysiant, cyfle cyfartal ac amrywiaeth
  3. pwysigrwydd hybu a chymell pobl ifanc i feithrin diwylliant sy'n hyrwyddo cynhwysiant, cydraddoldeb ac sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth ac sy'n barchus ac yn oddefgar o'r rheini sydd â gwahanol gredoau, rhai anghrediniol, anabledd, rhyw, hunaniaeth, gwerthoedd, cefndir, gwahanol ddiwylliant a ffydd
  4. egwyddorion a dulliau a ddefnyddir i hybu cynhwysiant, cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth
  5. beth sy'n cyfrif fel ymddygiad gormesol a gwahaniaethol a ffyrdd o fynd i'r afael ag ymddygiad o'r fath
  6. gweithdrefnau eich sefydliadau ar gyfer delio â chwynion am ymddygiad gormesol neu wahaniaethol
  7. pam ei bod yn bwysig rhoi sylw i ymddygiad gormesol neu wahaniaethol ar unwaith ac yn gywir
  8. eich rôl a'ch cyfrifoldebau i hybu cydraddoldeb a chynhwysiant a gwerthfawrogi amrywiaeth â phobl ifanc a'ch cydweithwyr
  9. asiantaethau a phartneriaid y gallwch gyfeirio atynt neu gael cymorth ganddynt i hybu neu sefydlu cynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth
  10. pam ei bod yn bwysig sicrhau bod polisïau ac ymarfer cynhwysiant ac amrywiaeth yn hybu ac yn cefnogi gwerthoedd gwaith ieuenctid
  11. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

LSI YW21

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; cydraddoldeb; amrywiaeth; cynhwysiant; diwylliant; systemau; polisi; gweithdrefn; ymarfer; ysgogi; gwahaniaethu; ymddygiad; parchu; parch; goddefgarwch