Monitro ac adolygu polisïau ac arferion eich sefydliad er mwyn amddiffyn a diogelu pobl ifanc a chi eich hun

URN: YW17
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae diogelu pobl ifanc yn un o’r gwerthoedd y disgwylir i weithwyr ieuenctid wybod amdanynt a’u gweithredu wrth eu gwaith.

Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at greu a gweithredu polisïau ac arferion sy’n amddiffyn pobl ifanc. Fel rhan o hyn, byddwch yn sicrhau eich bod yn gweithredu mesurau recriwtio a goruchwylio diogel, yn dilyn gweithdrefnau ac yn cadarnhau bod eich cydweithwyr hefyd yn gwneud hyn fel bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd i ddiogelu pobl ifanc pan fo angen.

Mae’r safon hon yn addas i bob gweithiwr ieuenctid, gan fod amddiffyn plant yn gyfrifoldeb i bawb.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. diogelu ac amddiffyn pobl ifanc gan ddilyn gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, codau ymarfer a dyletswydd gofal
  2. cadarnhau bod cydweithwyr a phobl ifanc yn ymwybodol o'r polisïau a'r gweithdrefnau diogelu, ac o'r rhesymeg dros y rhain
  3. defnyddio gweithdrefnau ar gyfer recriwtio ac archwilio gweithwyr a gwirfoddolwyr yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol a gofynion y sefydliad
  4. defnyddio goruchwyliaeth fel ffordd o ddiogelu pobl ifanc
  5. darparu cymorth datblygu proffesiynol parhaus a chyfnod sefydlu i weithwyr a gwirfoddolwyr ar weithredu arferion da
  6. cynnig cymorth i bobl ifanc pan maent yn defnyddio ffurfiau cyfryngau newydd i sicrhau eu bod yn ddiogel ac nad ydynt yn dioddef bwlio nac aflonyddu
  7. cytuno â'r cydweithwyr perthnasol y gweithdrefnau a'r camau i'w cymryd i ddelio ag amheuon, honiadau ac achosion o dorri arferion da a chyflwyno adroddiadau arnynt
  8. cytuno ar y gweithdrefnau i'w dilyn o safbwynt cyfrinachedd, datgelu a chydsynio
  9. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a'r codau ymarfer cyfredol a'r ddyletswydd gofal ynglŷn ag amddiffyn a diogelu pobl ifanc
  2. gofynion, polisi ac ymarfer eich sefydliad o safbwynt recriwtio diogel, diogelu a gan gynnwys cael cydsyniad gwybodus pan fo angen
  3. pwysigrwydd sefydlu polisi sy'n cydnabod bod diogelwch y person ifanc yn holl bwysig, a bod gan yr holl staff, gan gynnwys gwirfoddolwyr, gyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryderon wrth yr unigolyn perthnasol
  4. yr egwyddorion sy'n sail i'r polisïau a'r gweithdrefnau i amddiffyn a diogelu pobl ifanc
  5. pwysigrwydd cynnwys pobl ifanc yn y gwaith o lunio polisïau a gweithdrefnau, a'r dulliau o wneud hyn
  6. dulliau effeithiol o ddatgan y polisïau a'r gweithdrefnau, ac o gefnogi'r ffordd y cânt eu gweithredu yn eich sefydliad
  7. y meini prawf monitro ac adolygu i'w defnyddio i weld pa mor effeithiol yw'r polisïau a'r gweithdrefnau i amddiffyn a diogelu pobl ifanc
  8. y camau i'w cymryd pan geir achos o dorri polisi neu weithdrefn
  9. y polisïau a'r gweithdrefnau a ddefnyddir gan sefydliadau sy'n bartneriaid er mwyn amddiffyn pobl ifanc
  10. asiantaethau a rhanddeiliaid yn eich sector eich hun ac mewn sectorau eraill sy'n darparu cymorth ac y gellir cael gwybodaeth ganddynt ac y gellir cyfeirio atynt o safbwynt diogelu ac amddiffyn
  11. pwysigrwydd annog ymarfer rhagorol o safbwynt diogelu ac amddiffyn staff rhag honiadau ffug
  12. terfynau cyfrinachedd, pryd mae'n bwysig datgelu a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny
  13. arferion da o safbwynt recriwtio, sefydlu a chymorth hyfforddiant parhaus ar gyfer amddiffyn a diogelu pobl ifanc a chi eich hun
  14. y gweithdrefnau ar gyfer diogelu ac amddiffyn pobl ifanc a chi eich hun, gan gynnwys diogelu digidol
  15. sut i ddarparu cymorth datblygu proffesiynol parhaus a chyfnod sefydlu i weithwyr a gwirfoddolwyr ar weithredu arferion da
  16. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

LSI YW20

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; diogelu; lles; gwarchod; gofynion; amgylchedd; atgyfeiriadau; cyfrinachedd; datgelu; datgeliad; cydsynio; cydsyniad; ymarfer; polisi; gweithdrefnau