Cynorthwyo pobl ifanc i asesu risg a gwneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â’u hiechyd a’u lles

URN: YW15
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Bwriedir y safon hon ar gyfer gweithwyr ieuenctid sy’n ymdrechu i roi sylw i lesiant pobl ifanc a’i wella.

Byddwch yn gweithio â phobl ifanc i ganfod y materion sy’n gallu effeithio ar eu lles ac yn annog pobl ifanc i gymryd gofal rhesymol a chymryd cyfrifoldeb dros ofalu am eu llesiant eu hunain.

Fel rhan o’r safon hon mae ‘llesiant’ yn cynnwys iechyd personol, corfforol ac emosiynol pobl ifanc.

Mae’r safon hon yn addas i bob ymarferydd gwaith ieuenctid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cytuno â'r bobl ifanc y ffactorau arferol a allai effeithio ar eu hiechyd a'u lles
  2. sefydlu meini prawf allweddol i bobl ifanc eu defnyddio i ddiffinio cyflwr eu hiechyd a'u lles, gan gynnwys risgiau
  3. asesu lles pobl ifanc gan ddefnyddio'r meini prawf y cytunwyd arnynt
  4. trafod canlyniad yr asesiad â'r bobl ifanc a'u cynorthwyo i lunio meini prawf ar gyfer strategaethau i wella'u hiechyd a'u lles
  5. darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad perthnasol a diweddar i bobl ifanc, yn unol â'ch cymhwysedd a'ch cyfrifoldeb
  6. gofyn i bobl ifanc fyfyrio ar eu hymddygiad a mesur achosion a chanlyniadau eu gweithredoedd
  7. atgoffa pobl ifanc i archwilio'u cynnydd, er mwyn adnabod llwyddiannau a rhoi sylw i rwystrau
  8. cynnal cyfrinachedd a chofnodion fel y bo'n briodol yn unol â'r gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
  9. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol a sefydliadol, gan gynnwys y cyd-destun lleol, cymdeithasol a gwleidyddol, sy'n effeithio ar y wybodaeth, yr arweiniad a'r cymorth a ddarperir o safbwynt lles pobl ifanc
  2. gofynion cyfreithiol a sefydliadol sy'n berthnasol i storio, cadw a chynnal gwybodaeth
  3. polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ynglŷn â chyfrinachedd gwybodaeth a datgelu gwybodaeth i drydydd partïon, a dan ba amgylchiadau penodol y gellir datgelu
  4. y prif asiantaethau a'r llwybrau cyfeirio sydd ar gael i helpu pobl ifanc gyda'u hiechyd a'u lles, a'r llwybrau i gael gafael ar y rhain
  5. pwysigrwydd cynnal hawl yr unigolyn ifanc i wneud ei ddewisiadau ei hun
  6. ystyriaethau cymdeithasol-economaidd lleol a chenedlaethol a'u heffaith ar les pobl ifanc
  7. ffactorau risg sy'n effeithio ar les pobl ifanc yn y gymuned leol, gan gynnwys y gymuned ddigidol
  8. pam ei bod yn bwysig i'r person ifanc reoli cynnydd a chynnwys trafodaethau, sut i wneud awgrymiadau a phryd i ddarparu gwybodaeth ddiweddar
  9. pam ei bod yn bwysig peidio â barnu'r ffyrdd y mae pobl ifanc yn dewis byw a'r dewisiadau a wnaethant
  10. pam ei bod yn bwysig helpu pobl ifanc i ystyried achosion ac effeithiau eu dewisiadau a'u hymddygiad arnynt eu hunain ac eraill a'r dulliau o wneud hyn
  11. sut gall diwylliant, credoau a dewisiadau effeithio ar barodrwydd person ifanc i drafod materion a'r strategaethau y gellid eu defnyddio i annog hyn
  12. strategaethau ar gyfer annog pobl ifanc i drafod pethau'n agored ac yn onest, sut i barchu a chydnabod blaenoriaethau pobl eraill o safbwynt eu lles a'u hawl i wrthod awgrymiadau a gwybodaeth
  13. eich rôl a'ch cyfrifoldebau ac oddi wrth bwy y dylid ceisio cymorth a chyngor a chefnogaeth pan fo angen
  14. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

LSI YW18

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; hawliau; lles; gwybodaeth; cyngor; arweiniad; cymorth; cefnogaeth; cefnogi; ymddygiad; ffordd o fyw; pwyso a mesur; cynnydd; her; herio; cyd-ddibyniaeth; camau gweithredu; cyraeddiadau; cyflawniadau