Cynorthwyo pobl ifanc i adnabod, gwireddu ac amddiffyn eu hawliau

URN: YW14
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae hwyluso a grymuso llais pobl ifanc yn un o’r gwerthoedd y disgwylir i weithwyr ieuenctid wybod amdanynt a’u gweithredu wrth eu gwaith.

Mae’r safon hon yn cyflwyno pobl ifanc i gytundebau hawliau a gydnabyddir yn rhyngwladol i blant a phobl ifanc ac mae’n cynnwys gweithio â phobl ifanc i hybu a sefydlu eu hawliau mewn gweithgareddau gwaith ieuenctid, a meysydd eraill o’u bywydau. Byddwch yn defnyddio modelau a thechnegau eiriolaeth i helpu pobl ifanc i wneud hyn. Mae’r safon yn cyfeirio at grwpiau penodol o bobl ifanc sydd ag amddiffyniadau a hawliau ychwanegol o bosibl, megis ffoaduriaid, pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, a phobl ifanc ag anableddau.  

Mae’r safon hon yn addas i bob ymarferydd gwaith ieuenctid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. defnyddio dull seiliedig ar hawliau wrth weithio â phobl ifanc
  2. cynorthwyo pobl ifanc i ddefnyddio technegau a fydd yn eu helpu i fynegi eu safbwyntiau a'u barn
  3. darparu i bobl ifanc awgrymiadau ynglŷn â sut i gyflwyno eu syniadau i eraill gan roi ystyriaeth i'w hawliau a hawliau pobl eraill
  4. eiriol gyda, ac ar ran, pobl ifanc gyda'u cyfoedion, cydweithwyr a rhanddeiliaid eraill
  5. gweithredu i herio achosion o ormes a gwahaniaethu ymysg ac yn erbyn pobl ifanc o fewn ffiniau eich rôl
  6. cyflawni eich rôl yn unol â'r canllawiau a'r codau ymarfer perthnasol o safbwynt hawliau pobl ifanc
  7. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a chodau ymarfer sy'n rhoi sylw i hawliau plant a phobl ifanc gan gynnwys eu cyd-destun lleol, cymdeithasol a gwleidyddol
  2. pwerau a dyletswyddau'r Comisiynwyr Plant a Phobl Ifanc yn eu priod wledydd datganoledig.  
  3. asiantaethau lleol a sefydliadau cenedlaethol allweddol sy'n gyfrifol am bennu a monitro hawliau plant a phobl ifanc
  4. pwysigrwydd rhoi ystyriaeth i farn pobl eraill o safbwynt cadarnhau hawliau pobl ifanc
  5. gweithdrefnau eich sefydliad chi sy'n mynnu eich bod yn ymwybodol o ormes a gwahaniaethu ac yn herio hynny
  6. technegau a modelau eiriolaeth
  7. egwyddorion cyfathrebu effeithiol a sut i weithredu'r rhain er mwyn cyfathrebu'n effeithio â phobl ifanc, asiantaethau eraill a rhanddeiliaid
  8. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

LSI YW17

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; hawliau; dadlau o blaid; eiriolwr; hyrwyddo; hybu; her; herio; gwahaniaethu; cydraddoldeb; amrywiaeth