Cael gafael ar wybodaeth gyda phobl ifanc ac ar eu cyfer er mwyn llywio penderfyniadau

URN: YW13
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â helpu pobl ifanc i ganfod a chael gafael ar y wybodaeth y mae arnynt ei hangen i’w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae hefyd yn ymdrin â darparu gwybodaeth briodol a ffeithiol, gwerthuso effeithiolrwydd gwybodaeth a defnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol wrth wneud penderfyniadau.

Mae darparu cymorth yn rhan o rôl y gweithiwr ieuenctid ac nid yw’n dileu hawl grymuso person ifanc. Nis bwriedir i’r safon ymdrin â’r broses gwnsela fwy ffurfiol.

Mae’r safon hon yn addas i bob ymarferydd gwaith ieuenctid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sefydlu ac asesu natur y wybodaeth a'r cymorth y mae pobl ifanc yn eu ceisio
  2. cael gafael ar wybodaeth ddiweddar a ffeithiol yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  3. helpu'r bobl ifanc i gael gafael ar wybodaeth angenrheidiol, ei chasglu, ei chyflwyno i eraill a'i chadw mewn cyfrwng perthnasol
  4. defnyddio dulliau dadansoddi a meddwl yn feirniadol i adolygu â'r bobl ifanc y wybodaeth a gafwyd
  5. helpu pobl ifanc i ganfod ffynonellau gwybodaeth ychwanegol a chymryd y camau priodol os
    yw’n digwydd bod wedi dyddio neu’n gamarweiniol;
    neu'n gamarweiniol
  6. cynorthwyo pobl ifanc i drefnu gwybodaeth er mwyn esgor ar ddewisiadau i wneud penderfyniadau arnynt
  7. cadarnhau â'r bobl ifanc sut maent yn bwriadu defnyddio'r wybodaeth a gawsant
  8. cynllunio a chytuno â'r bobl ifanc ba gymorth a gânt
  9. cynnig cymorth i bobl ifanc pan maent yn defnyddio cyfryngau
    newydd i sicrhau
    eu bod yn ddiogel ac nad ydynt yn dioddef bwlio nac aflonyddu
  10. gwerthuso effeithiolrwydd y wybodaeth a'r cymorth a ddarparwyd a defnyddio hyn i ddylanwadu ar ofynion cymorth i'r dyfodol
  11. monitro a gweithredu er mwyn sicrhau bod y wybodaeth a geir yn aros yn gyfredol
  12. sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei chyrchu a'i storio yn unol â'r arferion a'r gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
  13. darparu cymorth yn unol â'ch lefelau cyfrifoldeb eich hun
  14. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pam ei bod yn bwysig i bobl ifanc allu cael gafael ar wybodaeth drostynt eu hunain o amrywiaeth mawr o ffynonellau
  2. anghenion gwybodaeth arferol pobl ifanc
  3. gweithdrefnau eich sefydliadau ar gyfer cynorthwyo pobl ifanc wrth gyrchu gwybodaeth ddibynadwy a chywir
  4. ffynonellau gwybodaeth sy'n berthnasol i bobl ifanc
  5. hawl yr unigolyn i weld gwybodaeth
  6. y prif fathau o gyfryngau a ddefnyddia pobl ifanc i weld, storio, creu ac arddangos gwybodaeth
  7. ffactorau sy'n effeithio ar hygyrchedd gwybodaeth
  8. ffyrdd o weld a darparu gwybodaeth sy'n hwyluso proses gwneud penderfyniadau effeithiol ac sy'n eich galluogi i wneud cynllun gweithredu er mwyn sicrhau'r canlyniadau
  9. sut i gadw pobl ifanc yn ddiogel wrth gyrchu ffurfiau cyfryngau newydd
  10. pwysigrwydd cynnal hawliau pobl ifanc i wneud eu penderfyniadau eu hunain a'r technegau i'w helpu i wneud hynny
  11. y cymorth y bydd ar bobl ifanc ei angen o bosibl i ddeall gwybodaeth, gwneud penderfyniadau a chynllunio'r camau gweithredu a'r canlyniadau
  12. ffyrdd o sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chadw'n ddiweddar
  13. gofynion deddfwriaethol a sefydliadol sy'n ymwneud â diogelu data, hawlfraint, eiddo deallusol a rhyddid gwybodaeth
  14. pwysigrwydd sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyrchu a'i storio yn unol ag ymarfer a pholisïau eich sefydliad
  15. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

LSI YW16

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; gwybodaeth; penderfyniadau; cymorth; cefnogaeth; cefnogi; cam gweithredu; nodau; canlyniadau; cyfryngau; gwerthoedd; cynllun gweithredu; asiantaethau