Rheoli adnoddau gyda phobl ifanc ar gyfer gweithgareddau gwaith ieuenctid

URN: YW12
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Bwriedir y safon hon ar gyfer gweithwyr ieuenctid sy’n helpu pobl ifanc i reoli adnoddau, gan gynnwys arian, ar gyfer digwyddiad, gweithgaredd a/neu brosiect. Mae hefyd yn addas ar gyfer y rheini sydd eu hunain yn rheoli adnoddau ac arian prosiect o’r fath.

Mae’r safon hon yn cynnwys gweithio â phobl ifanc i wneud cynllun prosiect a chynllun ariannol ar gyfer digwyddiad, gweithgaredd a/neu brosiect, gan reoli’r adnoddau sy’n ofynnol, monitro’r incwm a’r gwariant a chadw cofnodion manwl.

Yn ddibynnol ar y cyd-destun, gallai’r gweithgareddau fod yn rhai annibynnol, neu gyda’i gilydd gallant fod yn rhan o raglen a/neu’n rhan o brosiect.

Mae’r safon hon yn addas i bob ymarferydd gwaith ieuenctid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. canfod y gyllideb sydd ar gael ar gyfer y gweithgaredd arfaethedig
  2. cytuno â'r bobl ifanc yr adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer y gweithgaredd arfaethedig, gan gynnwys y sgiliau angenrheidiol, amser pobl, yr offer a'r deunyddiau
  3. cynorthwyo'r bobl ifanc i weld unrhyw fylchau yn yr adnoddau sydd ar gael, pwyso a mesur y dewisiadau ar gyfer llenwi'r bylchau, a'r effaith ar y gyllideb
  4. cynorthwyo'r bobl ifanc i lunio a gweithredu cynlluniau realistig ar gyfer codi arian a chael rhagor o adnoddau
  5. cynorthwyo'r bobl ifanc â cheisiadau am nawdd
  6. cynnwys y bobl ifanc yn y gwaith o baratoi cynllun prosiect manwl ar gyfer y gweithgaredd gofynnol gan ddisgrifio rhestr o gamau gweithredu
  7. cytuno ar gyllideb a chynllun prosiect gyda'r bobl ifanc ac unrhyw bartïon perthnasol eraill
  8. gweithio â'r bobl ifanc i sefydlu system ar gyfer monitro'r cynnydd yn erbyn yr amserlen a'r gyllideb
  9. monitro'r gwariant ac unrhyw incwm tra bo'r gweithgaredd yn cael ei ddatblygu, chwilio am amrywiadau mawr oddi wrth y gyllideb, y rhesymau am y rhain, a gweithredu fel y bo'n briodol
  10. cynorthwyo'r bobl ifanc i adolygu canlyniadau'r gweithgaredd, gan gynnwys sut rheolwyd yr adnoddau, gan ddefnyddio'r canfyddiadau i wneud argymhellion i ddylanwadu ar waith i'r dyfodol
  11. cadw cofnodion clir, cywir a chynhwysfawr gan ddilyn polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cadw cofnodion
  12. rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith i liniaru yn erbyn y risg i'r adnoddau
  13. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid, a'u heffaith ar eich maes gweithredu
  2. canllawiau deddfwriaethol a sefydliadol yn ymwneud â chodi arian ac adnoddau eraill ar gyfer gweithgareddau gwaith ieuenctid
  3. y wybodaeth sy'n ofynnol ac o ble i'w chael, ar gyfer paratoi amcangyfrif realistig o'r gyllideb a'r adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer y gweithgareddau
  4. pam ei bod yn bwysig bod y bobl ifanc yn cyfranogi yn y gwaith o amcangyfrif, cynllunio a rheoli adnoddau
  5. pwysigrwydd treulio amser, ac ymgynghori â'r partïon perthnasol, wrth amcangyfrif yr adnoddau sy'n ofynnol a sefydlu cyllideb ar gyfer y gweithgareddau
  6. sut i baratoi cyllideb, cytuno arni a'i monitro â'r bobl ifanc
  7. atebolrwydd ariannol ac i ba raddau y mae pobl yn ariannol gyfrifol yn eich sefydliad
  8. sut i werthuso'r gofyn am adnoddau a gweld unrhyw fylchau
  9. pam ei bod yn bwysig helpu pobl ifanc i gael eu hadnoddau eu hunain ar gyfer gweithgareddau
  10. yr amrywiol adnoddau sydd ar gael, yn eich sefydliad eich hun a'r tu allan
  11. sut i bennu, monitro a chofnodi cynlluniau gweithredu â'r bobl ifanc
  12. systemau ar gyfer tracio incwm a gwariant adeg gweithredu digwyddiad, gweithgaredd neu brosiect
  13. pam ei bod yn bwysig monitro gwariant yn ofalus a chynnwys pobl ifanc yn y broses fonitro
  14. pwysigrwydd darparu gwybodaeth gywir a rheolaidd am berfformiad yn erbyn y gyllideb i'r bobl berthnasol
  15. pendraw eich awdurdod, ac at bwy y dylech gyfeirio pan fo angen
  16. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

LSI YW12

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; adnoddau; gweithgaredd; gweithgareddau; digwyddiad; digwyddiadau; prosiect; prosiectau; camau gweithredu; gweithred; gweithredoedd; cynllun; cynlluniau; cyllideb; cyllidebau; monitro; cynlluniau prosiectau; gwariant