Cynllunio, paratoi a hwyluso gweithgareddau dysgu â phobl ifanc
Trosolwg
Bwriedir y safon hon ar gyfer gweithwyr ieuenctid sy’n ymwneud â datblygu gweithgareddau i bobl ifanc a gyda nhw, ac mae hon yn rhan allweddol o nifer o rolau gwaith ieuenctid.
Caiff y gwaith o gynllunio, paratoi a hwyluso gweithgareddau sy’n cynnwys pobl ifanc ei gyflawni drwy ymgysylltu â’r broses gwaith ieuenctid a drwy ddatblygu cyfleoedd dysgu gyda’r bobl ifanc ac ar eu cyfer. Fel rhan o’r safon hefyd caiff pobl ifanc eu cynnwys yn y gwaith o ddylunio a datblygu gweithgareddau.
Yn ddibynnol ar y cyd-destun, gallai’r gweithgareddau fod yn rhai annibynnol, neu gyda’i gilydd gallant fod yn rhan o raglen a/neu’n rhan o brosiect.
Mae’r safon hon yn addas i bob ymarferydd gwaith ieuenctid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Awgrymu wrth bobl ifanc weithgareddau yr hoffent gyfranogi ynddynt o bosibl, gweithgareddau sy'n berthnasol i'w anghenion ac yn briodol i'r lleoliad
- galluogi pobl ifanc i ysgwyddo rolau arwain a/neu gyflawni yn ystod y gweithgareddau
- helpu'r bobl ifanc i drafod, a chofnodi'r camau sydd angen eu cymryd i gyflawni'r gweithgareddau y cytunwyd arnynt
- cytuno â'r bobl ifanc y rheolau sylfaenol a'r nodau ar gyfer y gweithgaredd ac unrhyw feini prawf a ddefnyddir i fonitro a gwerthuso llwyddiant y gweithgaredd
- cytuno â'r bobl ifanc dan sylw sut dylid rhoi sylw i bryderon, cyfyngiadau neu rwystrau posibl rhag cyrraedd nodau'r gweithgaredd
- canmol y bobl ifanc pan maent yn cyfrannu'n llwyddiannus ac yn cwblhau gweithgareddau
- cynnwys y bobl ifanc i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd y gweithgaredd a meddwl am ffyrdd o wella'r gweithgareddau
- gweithio o fewn y cwricwla neu'r rhaglenni presennol lle bo hynny'n berthnasol
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol sy'n berthnasol i'ch gwaith â phobl ifanc, gan gynnwys gofynion eich sefydliad chi a sefydliadau perthnasol eraill
- theori, gwybodaeth ac egwyddorion Cyfranogaeth Ieuenctid
- dulliau ac offer sy'n addas ar gyfer cynllunio gweithgareddau gwaith ieuenctid
- prosesau a thechnegau ar gyfer dylunio a datblygu gweithgareddau â phobl ifanc
- pwysigrwydd dylunio gweithgareddau sy'n rhoi ystyriaeth i'r dulliau dysgu a ddewisa'r cyfranogwyr, a sut i wneud hyn
- sut i adnabod a goresgyn rhwystrau rhag dysgu effeithiol a gweithgareddau a dulliau ar gyfer rhoi sylw i'r rhain
- y mathau o leoliadau ac adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer gweithgareddau, a'r cyfleoedd, y dewisiadau a'r cyfyngiadau rhag cael y rhain o fewn y gofynion amser a'r gyllideb
- ffyrdd o annog pobl ifanc i gyfranogi yn y gweithgareddau y cytunwyd arnynt
- pam ei bod yn bwysig monitro dynameg grwpiau am wrthdaro a sut i roi sylw i hyn yn ddi-oed ac yn deg
- ffyrdd effeithiol o weithio â phobl ifanc a'u cynnwys yn y gwaith o bennu meini prawf ar gyfer monitro a gwerthuso gweithgareddau
- sut i gydnabod llwyddiant, a darparu adborth positif ac adeiladol i bobl ifanc
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon