Eiriol gyda phobl ifanc ac ar eu rhan fel bod eu buddiannau’n cael eu cynrychioli
Trosolwg
Mae pwysigrwydd cyfranogi a chynnwys pobl ifanc yn rhai o’r gwerthoedd y disgwylir i weithwyr ieuenctid wybod amdanynt a’u gweithredu wrth eu gwaith. Mae annog pobl ifanc i gymryd rhan a chyfranogi yn y broses eiriolaeth yn helpu i feithrin sgiliau a hyder pobl ifanc.
Mae’r safon hon yn ymwneud â helpu pobl ifanc i feithrin eu sgiliau cyfathrebu er mwyn cynrychioli eu safbwyntiau a’u gwerthoedd nhw a’u cyfoedion, gerbron eraill. Mae hefyd yn cynnwys canfod beth yw anghenion a buddiannau unigolion neu grwpiau o bobl ifanc, a chyflwyno eu hanghenion a’u buddiannau yn gywir ac yn deg.
Bwriedir y safon hon ar gyfer gweithwyr ieuenctid sy’n cyfathrebu ac yn gweithredu ar ran pobl ifanc, a/neu sy’n annog pobl ifanc i gynrychioli eu hunain.
Mae’r safon hon yn addas i bob ymarferydd gwaith ieuenctid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis modelau eiriolaeth i'w defnyddio â phobl ifanc yn unol â'r cyd-destun eiriolaeth
- cytuno â phobl ifanc y prif faterion yr hoffent roi sylw iddynt drwy gyfrwng yr eiriolaeth, y canlyniadau dymunol a'r gofynion o ran gwybodaeth
- cynorthwyo pobl ifanc i ymgysylltu â phobl briodol, gan gynnwys penderfynwyr
- trafod a chytuno â'r bobl ifanc gyfleoedd i gyfranogi a chynrycholi eu hunain
- helpu pobl ifanc i gasglu gwybodaeth ddigonol a dilys i'w galluogi i ategu a chyflwyno eu safbwyntiau a'u buddiannau
- cytuno â'r bobl ifanc sut i deilwra eu cyflwyniad ar eu safbwyntiau a'u buddiannau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd
- cynorthwyo pobl ifanc i gynllunio'r hyn yr hoffent ei fynegi
- helpu pobl ifanc i feithrin strategaethau i ymdopi ag unrhyw gyfyngiadau neu rwystrau a wynebant wrth wneud hyn
- adolygu'r wybodaeth sydd ar gael am anghenion pobl ifanc a chasglu gwybodaeth ychwanegol fel y gallwch eiriol ar eu rhan lle bo angen
- cyflwyno buddiannau pobl ifanc i'r gynulleidfa, gwrando ar ymateb eraill a chynnig adborth adeiladol
- cofnodi a chadw cofnodion o'r wybodaeth a gyflwynwyd a'r camau a gymerwyd
- adolygu canlyniadau'r sylwadau â'r bobl ifanc, a chytuno ar gamau dilynol priodol
- cydymffurfio â'r codau ymarfer perthnasol, y canllawiau a'r gofynion moesegol a gweithio'n unol â gwerthoedd gwaith ieuenctid
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau wrth eiriol dros safbwyntiau a buddiannau pobl ifanc
- modelau, dulliau a thechnegau eiriolaeth
- amgylchiadau arferol lle gallai pobl ifanc fod angen eiriolaeth
- ffactorau sy'n effeithio ar allu pobl ifanc i gyfranogi a chynrychioli eu hunain
- dulliau o asesu aeddfedrwydd, sgiliau a hyder pobl ifanc ar gyfer cynrychioli eu safbwyntiau a'u buddiannau
- pwysigrwydd gosod nodau realistig ar gyfer canlyniad y gellir ei gael
- sut i gytuno ar y math o eiriolaeth sy'n angenrheidiol gyda'r bobl ifanc ac ar eu cyfer gan gynnwys y nodau, y wybodaeth sy'n angenrheidiol a sut i gyflwyno'r ddadl
- yr amrywiol sefyllfaoedd lle gallai cynrychiolaeth ddigwydd, a'r ffactorau i'w hystyried wrth baratoi ar gyfer y rhain
- pwy i gysylltu â nhw er mwyn olrhain buddiannau pobl ifanc
- y math o wybodaeth sy'n angenrheidiol a sut i gael gwybodaeth ychwanegol i sicrhau eiriolaeth gywir a theg
- pwysigrwydd paratoi wrth gyflwyno safbwyntiau a dadleuon, anghenion a disgwyliadau'r gynulleidfa, y dulliau o gyflawni hyn
- y gwahaniaeth rhwng y penderfynwyr a'r rheini sy'n dylanwadu ar y broses gwneud penderfyniadau, a phwysigrwydd y ddau
- sgiliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer cyflwyno safbwyntiau a buddiannau
- ystyriaethau arferol a meysydd sy'n peri pryder a godir fel arfer drwy eiriolaeth a ffyrdd o'u datrys
- sut i ddarparu adborth ac adolygu canlyniadau'r eiriolaeth â phobl ifanc
- sut i gymryd unrhyw gamau gofynnol ar ôl cynrychioli'r sawl drwy eiriolaeth
- codau ymarfer, canllawiau a gofynion cyfreithiol, sefydliadol a moesegol sy'n berthnasol i waith ieuenctid a'ch rôl chi
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon