Cynorthwyo pobl ifanc i fod yn ddinasyddion cyfrifol drwy fod yn awyddus i ymgysylltu â gwaith ieuenctid

URN: YW09
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae pwysigrwydd cyfranogi a chynnwys pobl ifanc yn werthoedd y disgwylir i weithwyr ieuenctid eu deall a’u gweithredu wrth eu gwaith, ac maent yn ategu’r safon hon.

Bwriedir y safon hon ar gyfer gweithwyr ieuenctid sy’n annog pobl ifanc i fod yn ddinasyddion gwybodus, ymgysylltiol a chyfrifol, gan feithrin dealltwriaeth o’r gymuned ehangach a’u lle ynddi.

Mae’n cynnwys annog a helpu pobl ifanc i fod yn rhan o’u cymunedau lleol ac ehangach a hyrwyddo dealltwriaeth o sut i fod yn effeithiol wrth ymwneud â’r cymunedau hyn, eu herio a gwneud cyfraniad positif at newid ynddynt.

Yng nghyd-destun y safon hon, gall cymunedau ehangach gynnwys grwpiau cymdeithasol, diwylliannol neu bersonol, yn ogystal â chymunedau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang y gallent fod yn rhwym wrth broses ddemocrataidd neu wleidyddol.

Mae’r safon hon yn addas i bob ymarferydd gwaith ieuenctid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. darparu i bobl ifanc wybodaeth am y cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang ehangach a phwyso a mesur y manteision o fod yn rhan ohonynt
  2. galluogi pobl ifanc i ganfod eu man cychwyn o ran hunanymwybyddiaeth a hunan-hyder
  3. helpu pobl ifanc i ystyried unrhyw risg y gallent ei hwynebu wrth weithio ar eu nodau gwaith ieuenctid
  4. trafod â phobl ifanc ffyrdd y gallent gyfranogi yn y gymuned ehangach a'u hannog i herio syniadau a phenderfyniadau
  5. cynnwys pobl ifanc yn y gwaith o gytuno ar weithgareddau a'u trefnu gyda'r nod o feithrin eu hymgysylltiad fel dinasyddion
  6. sicrhau bod digon o adnoddau ar gael er mwyn i'r bobl ifanc ddatblygu'r gweithgareddau a ddewiswyd wrth iddynt gynllunio eu hamcanion
  7. helpu pobl ifanc i wneud asesiad risg yn ystod y gweithgareddau a chymryd y camau priodol i gywreinio'r nodau
  8. trafod a chytuno â phobl ifanc y meini prawf ar gyfer asesu risg a gwerthuso gweithgareddau a sut caiff y cynnydd ei fonitro
  9. sicrhau bod y gweithgareddau yn datblygu ac yn cyflawni'r amcanion
  10. helpu pobl ifanc i fyfyrio ar y pwyntiau dysgu sy'n codi o'r gweithgareddau a'u trafod, gan ddefnyddio'r gwersi hyn i ddatblygu eu hunain fel dinasyddion cyfrifol
  11. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. manteision annog a helpu pobl ifanc i ehangu eu gorwelion, manteision cyfranogi yn y gymuned ehangach, a bod yn ddinasyddion cyfrifol
  2. yr hyn y mae dinasyddiaeth gyfrifol yn ei olygu, gan gynnwys o safbwynt teuluoedd, cymunedau lleol, llywodraeth leol a chenedlaethol, a materion rhyngwladol a byd-eang
  3. sut rhoddir sylw i ddinasyddiaeth yn yr amgylchedd dysgu, a sut gall gweithgareddau gwaith ieuenctid ategu hyn
  4. y broses ddemocrataidd a rôl llywodraeth leol a llywodraeth ganol gan gynnwys cyfrifoldebau a rolau gwneud penderfyniadau allweddol
  5. natur a nodau'r prif bleidiau gwleidyddol
  6. cyfleoedd a gweithgareddau i wella rhan a chyfranogiad pobl ifanc mewn cymunedau ehangach, gan gynnwys cyfleoedd i arwain a gwirfoddoli, a sut i gael mynediad at y rhain, sut i'w creu a'u gweithredu
  7. y rhwystrau a'r cyfyngiadau y teimla pobl ifanc eu bod yn llesteirio eu gallu i gyflawni eu potensial fel dinasyddion cyfrifol, a chamau priodol at oresgyn y rhain
  8. gofynion cyfreithiol a sefydliadol wrth reoli risgiau â phobl ifanc ac effaith y gofynion hyn ar eich rôl.
  9. y mathau o risg a'r ffactorau sy'n creu gwahanol fathau o risg
  10. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

LSI YW07

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; dinesydd; dinasyddiaeth; cwricwlwm; gwirfoddoli; gwirfoddolwr; dylanwadu; cymunedau; gwneud penderfyniadau; llywodraeth; ymgysylltu; cymryd rhan