Ymgysylltu â phobl ifanc a’u grymuso i ddefnyddio’r cyfryngau digidol yn eu bywydau bob dydd
Trosolwg
Pwysigrwydd deall y byd digidol y mae pobl ifanc yn byw ynddo; ac mae bod yn hyderus i helpu pobl ifanc i ddefnyddio a chael eu grymuso gan yr agweddau ar-lein a thechnolegol ar eu bywydau yn holl bwysig ar gyfer gwaith ieuenctid mewn oes ddigidol.
Nid yw’n hanfodol i bob gweithiwr ieuenctid ddangos lefelau da o arbenigedd technegol, ond mae’n bwysig bod gweithwyr ieuenctid yn gwerthfawrogi’r rôl y mae digidoleiddio a’r rhyngrwyd yn ei chwarae ym mywydau pobl ifanc, a’u bod yn gallu ymgysylltu â nhw.
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r sgiliau, y dulliau a’r mathau o wybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn i weithwyr ieuenctid ddatblygu eu cymhwysedd i helpu pobl ifanc i fod yn fwy ymwybodol o’u perthnasoedd a’u hymddygiad ar-lein, meddwl yn feirniadol am y cyfryngau a’r cynhyrchion a ddefnyddiant ar-lein, creu cynnwys, defnyddio platfformau ar-lein i rannu eu lleisiau, amddiffyn eu hawliau a dylanwadu ar gymdeithas.
Mae’r safon hon yn addas i bob ymarferydd gwaith ieuenctid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Ymchwilio i gyfleoedd posibl i gydweithredu ag asiantaethau eraill a gwella ymarfer
- datblygu, gweithredu, adlewyrchu ac ail-ddylunio gweithgareddau diddorol i unigolion a grwpiau sy'n golygu defnyddio technoleg a'r cyfryngau digidol
- cynllunio gwaith ieuenctid digidol ochr yn ochr ag anghenion pobl ifanc ac yn unol â'r anghenion hynny
- asesu llythrennedd digidol pob person ifanc ac addasu'r gweithgareddau gwaith ieuenctid digidol yn unol â hynny
- asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â gweithgareddau gwaith ieuenctid digidol a'u lliniaru drwy weithredu mesurau priodol
- helpu pobl ifanc i ddefnyddio'r cyfryngau digidol i hybu eu syniadau ac i'w hannog i gyfranogi mewn gweithgareddau gwaith ieuenctid ac i gael eu barn amdanynt
- herio pobl ifanc i feddwl yn feirniadol am wasanaethau a chynnwys digidol
- helpu pobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus am yr offer digidol priodol y dylid rhyngweithio a chydweithredu â nhw a'u rhannu â gwahanol grwpiau targed
- helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus am sut maent eisiau creu presenoldeb ar-lein, sut maent yn gwarchod eu gwybodaeth, gyda phwy maent eisiau rhannu eu cynnwys a sut i reoli hyn drwy ddefnyddio gosodiadau preifatrwydd a chyfrineiriau cryf.
- helpu pobl ifanc i benderfynu a ddylent dderbyn telerau ac amodau gwasanaethau digidol
- helpu pobl ifanc i ddelio â phroblemau y gallant eu hwynebu gyda gosodiadau digidol
- rhoi cyfleoedd i bobl ifanc archwilio codio a chreu cynnwys digidol
- sefydlu a chynnal ffiniau proffesiynol priodol mewn perthnasoedd ar-lein â phobl ifanc
- myfyrio ar eich hunaniaeth ddigidol mewn lleoliad gwaith ieuenctid
- defnyddio technegau gwerthuso i fyfyrio ar effeithiolrwydd gwneud gwaith ieuenctid digidol a gwella ymarfer
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae digidoleiddio yn siapio cymdeithas, gan gynnwys ei effaith ar waith ieuenctid ac ar bobl ifanc ac ar eu cyfleoedd i'r dyfodol
- anghenion arferol pobl ifanc, gan gynnwys eu diddordebau, eu dewisiadau, eu dyheadau, eu hobïau, eu steil a'u harferion ar-lein
- diwylliannau digidol pobl ifanc, gan gynnwys sut mae pobl ifanc yn cyfathrebu mewn amgylcheddau digidol
- sut i ategu nodau gwaith ieuenctid cyfredol â thechnoleg a'r cyfryngau digidol
- dulliau o gynnwys pobl ifanc yn holl gamau gwaith ieuenctid digidol, gan gynnwys gweithgareddau cyfoedion, gan roi rolau cyfrifol i bobl ifanc, gwirfoddoli
- y rhwystrau rhag cyfranogi yn yr agweddau ar waith ieuenctid digidol a sut i'w goresgyn
- y cymwysiadau a'r dyfeisiau digidol sydd ar gael a sut i ddewis yr un mwyaf priodol i'ch gofynion
- yr offer sydd ar gael ar gyfer creadigrwydd digidol, gan gynnwys offer ffynhonnell agored ac am ddim
- y mathau o broblemau y gallai pobl ifanc eu hwynebu ar-lein, gan gynnwys sut i ymateb i iaith gasineb, seiber-fwlio a mathau eraill o ymddygiadau annymunol ar-lein a sut i adrodd wrth blatfformau ac wrth yr heddlu neu asiantaethau eraill
- sut mae hawlfraint a thrwyddedau'n gweithio o safbwynt data, gwybodaeth a chynnwys digidol
- yr ystyriaethau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â lanlwytho cynnwys digidol, gan gynnwys perchnogaeth dros ddata
- lle mae angen gwella neu ddiweddaru eich cymhwysedd digidol
- lle i ddod o hyd i gyfleoedd i ddysgu a rhannu ymarfer yn y maes hwn
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon