Defnyddio gwerthoedd ac egwyddorion gwaith ieuenctid mewn gwaith grŵp
URN: YW07
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae pwysigrwydd tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn un o’r gwerthoedd y disgwylir i weithwyr ieuenctid wybod amdanynt a’u gweithredu wrth weithio â grwpiau o bobl ifanc.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar reoli dynameg grwpiau er mwyn hwyluso gwaith grŵp â phobl ifanc. Mae’n cynnwys gweithio â phobl ifanc mewn grŵp neu’n unigol er mwyn datblygu gweithgareddau grŵp sy’n bodloni anghenion a dewisiadau’r grŵp a’r unigolion.
Mae’r safon hon yn addas i bob ymarferydd gwaith ieuenctid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- egluro eich rôl fel hwylusydd i'r grŵp
- trafod a chytuno â'r bobl ifanc y disgwyliadau o ran ymddygiad derbyniol yn y grŵp
- helpu pobl ifanc ac oedolion i sefydlu grwpiau er mwyn cynnal gweithgareddau gwaith ieuenctid
- hybu'r angen i gynnal perthnasoedd positif a gwerthfawrogi'r gwahaniaethau rhwng aelodau unigol y grŵp ac â grwpiau eraill
- cynorthwyo pobl ifanc i roi, cymryd a derbyn adborth adeiladol
- defnyddio arddulliau a dulliau hwyluso sy'n briodol i gyfnod datblygu'r grŵp er mwyn dylunio gweithgareddau grŵp
- delio ag ymddygiad annerbyniol, gwrthdrawiadau a thensiynau, gan sicrhau eich bod yn gweithredu yn unol â'r ddeddfwriaeth, y polisïau a'r gweithdrefnau
- ceisio cymorth pan fo'r camau y mae angen eu cymryd i gynorthwyo'r grŵp y tu allan i derfynau eich rôl a'ch cyfrifoldeb
- bodloni polisïau, ymarfer a gofynion eich sefydliad o safbwynt cofnodi ac adrodd ar sesiynau grŵp i bobl ifanc, gan gynnwys digwyddiadau a allai godi
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich rôl fel hwylusydd gweithgareddau a dynameg y grŵp
- pam bo gwaith grŵp yn bwysig ar gyfer meithrin sgiliau a hyder pobl ifanc
- cysyniadau, damcaniaethau a modelau dynameg grŵp cyfoes a sut i weithredu'r rhain
- ffyrdd o hwyluso grwpiau sy'n grymuso'r aelodau ac sy'n rhoi ystyriaeth i gam datblygu grŵp
- pam bod rhaid ichi sicrhau bod ffiniau ymddygiad â'r grŵp a'i aelodau wedi'u gosod ac y glynir wrthynt
- sut i annog a chynorthwyo pobl ifanc ac oedolion i sefydlu grwpiau newydd i hwyluso gweithgareddau gwaith ieuenctid mewn ymateb i angen a welwyd
- dulliau ac ymyraethau a ddefnyddiwyd i ddatblygu gweithgareddau grŵp
- pam ei bod yn bwysig gweithio â phobl ifanc mewn ffyrdd sy'n goresgyn y rhwystrau i'r grŵp ac i unigolion a'u hannog i gyfathrebu â'i gilydd a pharchu ei gilydd
- sut i adnabod ymddygiad sydd y tu allan i ffiniau y cytunwyd arnynt, y gwahaniaeth rhwng ymddygiad ymosodol a phendantrwydd
- sut mae oedran a cham datblygiad pobl ifanc yn gallu effeithio ar y ffordd y caiff ymddygiad ei ystyried
- pwysigrwydd rhoi ystyriaeth i brofiadau bywyd pobl ifanc a allai effeithio ar eu hymddygiad presennol
- technegau ar gyfer dargyfeirio ymddygiad gormesol
- ffyrdd o ddarparu adborth adeiladol i grwpiau a'u haelodau
- ffyrdd o fonitro a gwerthuso gwaith grŵp a llwyddiant grwpiau
- pam ei bod yn bwysig i bobl ifanc ddysgu rheoli eu hymddygiad eu hunain a rhoi sylw i unrhyw wrthdaro mewn ffordd bositif, yn unigol ac mewn grwpiau
- oddi wrth bwy y dylid ceisio cymorth pan fo'r camau y mae angen eu cymryd y tu allan i derfynau eich cyfrifoldeb
- polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer cofnodi ac adrodd ar sesiynau grŵp gan gynnwys adrodd am ddigwyddiadau ac i bwy y dylid cyflwyno adroddiadau
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
CLD Standards Council Scotland
URN gwreiddiol
LSI YW06
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ieuenctid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Ieuenctid; pobl ifanc; grwpiau; gweithgareddau; nodau; datblygu; datblygiad; dysgu; pwyso a mesur; profiadau; cymorth; cefnogaeth; cefnogi; gweithgareddau; grwpiau; deinameg grŵp; ymddygiad; gwrthdaro