Archwilio cysyniad gwerthoedd a chredoau â phobl ifanc
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithio â phobl ifanc i’w hannog i archwilio eu gwerthoedd a’u credoau, o’u safbwynt eu hunain ac eraill.
Gall archwilio gwerthoedd a chredoau gwmpasu sbectrwm eang o destunau megis: cymuned, gwerthoedd diwylliannol, gwahaniaethu, amgylchedd, moeseg, ffydd, materion byd-eang, iechyd, credoau ideolegol, gwrthdaro rhwng ac o fewn grwpiau neu gymunedau, moesoldeb, credoau athronyddol, barn wleidyddol, perthnasoedd, credoau crefyddol ac ysbrydolrwydd, gan gynnwys anghrediniaeth.
Mae’r safon yn cynnwys galluogi pobl ifanc i wella’u hymdeimlad o’u gwerth eu hunain drwy hunan-ymwybyddiaeth a magu hunan-barch. Mae’n helpu pobl ifanc i feddwl yn feirniadol am eu gwerthoedd a’u credoau, sut maent wedi meithrin y rhain a deall yr effeithiau positif neu negyddol y gallai’r rhain eu cael ar eu bywydau nhw neu ar fywydau pobl eraill.
Wrth i waith ieuenctid ymdrechu i wneud cyfraniad mawr at ddatblygu cymdeithas sydd â nodweddion gwahanol a safbwyntiau amrywiol, rhaid mynd ati i archwilio gwerthoedd a chredoau yng nghyd-destun hybu perthnasoedd da a chyfle cyfartal i bawb.
Mae’r safon hon yn addas i bob ymarferydd gwaith ieuenctid. Gellir ei dehongli a’i chymhwyso fel sy’n briodol i’r cyd-destun y mae gweithwyr ieuenctid yn gweithio ynddo ac ni fwriedir iddi fod yn gyfyngol nac yn ddethol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gofyn i bobl ifanc beth mae 'gwerthoedd' a 'chredoau' yn ei olygu a beth, yn eu barn nhw, yw'r cysylltiadau a'r gwahaniaethau rhyngddynt
- hysbysu pobl ifanc o rôl natur, magwraeth, cyd-destun a chymuned yn natblygiad 'gwerthoedd' a 'chredoau'
- sicrhau bod yr amgylchedd lle digwydd y gwaith archwilio hwn yn lle diogel a phriodol i chi a'r bobl ifanc, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- trafod â phobl ifanc y dewisiadau y gallant eu gwneud ynglŷn â'u gwerthoedd a'u credoau
- darparu i bobl ifanc esiamplau o sut rydych chi'n rhannu eich dealltwriaeth chi o werthoedd a chredoau heb orfodi'r rhain arnynt hwy
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- beth mae 'gwerthoedd a chredoau' yn ei olygu a pham ei bod yn bwysig annog pobl ifanc i archwilio eu gwerthoedd a'u credoau eu hunain
- pwysigrwydd meithrin ymddiriedaeth â phobl ifanc er mwyn cael sgyrsiau am werthoedd a chredoau, a sut i feithrin ymddiriedaeth
- gwerthoedd a chredoau, a ffactorau allanol eraill y gall pobl ifanc ddod wyneb yn wyneb â nhw sy'n gallu dylanwadu ar eu gwerthoedd a'u credoau
- gwahanol gyd-destunau, diwylliannau a safbwyntiau o ran y gwerthoedd sydd i'w gweld yng nghymunedau pobl ifanc, yn y gymdeithas ehangach ac yn genedlaethol
- y berthynas rhwng gwerthoedd, credoau ac ymddygiad
- technegau a gweithgareddau sy'n annog pobl ifanc i fod yn fwy hunanymwybodol a chydnabod eu hunanddelwedd
- effeithiau a chanlyniadau posibl hunanddelwedd, a hunan-barch negyddol neu bositif
- effeithiau posibl a chanlyniadau delio â diweddiadau a marwolaethau
- pwysigrwydd parchu hawl person ifanc i fod â barn am y byd ac amdanynt eu hunain
- gweithgareddau a thechnegau sy'n gallu darparu i bobl ifanc ymdeimlad o lwyddiant a hunanwerth
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon