Galluogi pobl ifanc i adnabod, myfyrio ar a defnyddio’r hyn a ddysgant i wella’u datblygiad personol i’r dyfodol
URN: YW05
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar:
29 Maw 2019
Trosolwg
Bwriedir y safon hon ar gyfer gweithwyr ieuenctid y mae eu gwaith yn cynnwys annog pobl ifanc i fyfyrio ar yr hyn a ddysgant a’i ddefnyddio mewn meysydd eraill o’u bywydau, gan sefydlu nodau ar gyfer eu datblygiad i’r dyfodol. Gall ddigwydd yn unigol neu mewn grŵp.
Mae’r safon hon yn cynnwys dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol yn ogystal â dysgu o brofiad, drwy gyfathrebu a thrwy drafod.
Mae’r safon hon yn addas i bob ymarferydd gwaith ieuenctid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynorthwyo pobl ifanc i archwilio manteision dysgu parhaus
- creu cyfleoedd i bobl ifanc fyfyrio ar eu dysgu a'u profiadau mewn bywyd
- cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu strategaethau i ymdopi â sefyllfaoedd anodd o safbwynt eu siwrnai ddysgu
- cynorthwyo pobl ifanc i feithrin y gallu i gymryd cyfrifoldeb dros eu sesiynau adolygu eu hunain
- cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu nodau datblygu clir a chyraeddadwy, yn bersonol ac mewn grŵp
- cynorthwyo pobl ifanc i wneud gweithgareddau sy'n adlewyrchu eu harddull dysgu er mwyn cyrraedd eu nodau
- cyfeirio at ffynonellau cymorth a fydd yn helpu pobl ifanc i gyflawni ac adolygu eu dysgu a'u datblygu
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gweithgareddau a dulliau ar gyfer esbonio a hybu manteision dysgu parhaus, a ffynonellau cymorth cysylltiedig i bobl ifanc
- pwysigrwydd annog pobl ifanc i fyfyrio ar eu profiadau eu hunain a dysgu eu gwersi eu hunain ohonynt
- technegau ar gyfer creu amgylchedd lle mae'n ddiogel cyfathrebu'n agored ac yn onest am brofiadau, am ddysgu a dyheadau
- technegau ar gyfer hwyluso a monitro dynameg grŵp, gan alluogi pobl ifanc i ganolbwyntio ar faterion sy'n bwysig iddynt hwy, gan gynnwys y rheini y maent yn eu cael yn anodd
- sut i rymuso pobl ifanc i hawlio perchnogaeth dros y broses ddysgu
- sut i weithio â phobl ifanc i osod nodau cyraeddadwy, a pheirianweithiau ar gyfer cofnodi datblygiad pobl ifanc
- dulliau dysgu a damcaniaethau eraill sy'n berthnasol i gynllunio datblygiad
- pwysigrwydd rhoi a derbyn adborth yn effeithiol a dulliau ar gyfer cyflawni hyn â phobl ifanc
- gweithgareddau a thechnegau y gellir eu defnyddio ar gyfer monitro a myfyrio ar ddatblygiad personol a grwpiau
- y ffynonellau cymorth i bobl ifanc wrth iddynt weithredu eu cynlluniau datblygu a delio â materion sydd y tu hwnt i'ch cylch gorchwyl chi
- sut gellir defnyddio'r gwersi a ddysgir oddi wrth brofiadau gwaith ieuenctid mewn meysydd eraill mewn bywyd
- sut a phryd i ddefnyddio achrediad i wella dysgu pobl ifanc
- mathau o ddysgu achrededig
- gwerth dysgu anffurfiol, ffurfiol a heb fod yn ffurfiol, dysgu o brofiad, cyfathrebu a sut gall y rhain wella datblygiad pobl ifanc
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
CLD Standards Council
URN gwreiddiol
LSI YW05
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ieuenctid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Ieuenctid; pobl ifanc; datblygu; datblygiad; nod; nodau; dysgu; buddiannau; manteision; adlewyrchu; myfyrio; profiad; profiadau; cymorth; cefnogaeth; unigolyn; unigolion; grŵp; grwpiau