Datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cynhyrchiol mewn cydweithrediad â chydweithwyr, asiantaethau a rhanddeiliaid ar gyfer gwaith ieuenctid
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu perthnasoedd gwaith cynhyrchiol ag eraill sydd â diddordeb mewn gweithgareddau sefydliadol sy’n gysylltiedig â gwaith ieuenctid, neu sy’n gysylltiedig â’r cyfryw weithgareddau. Mae’n ymwneud â chydweithredu ag eraill er mwyn rhannu adnoddau i wella’r ddarpariaeth gwaith ieuenctid a darparu’r cyfleoedd gorau posibl i bobl ifanc yn y gymuned.
Mae’n golygu bod yn ymwybodol o rolau, cyfrifoldebau, buddiannau a phryderon cydweithwyr, asiantaethau a rhanddeiliaid a gweithio â nhw a’u cynorthwyo mewn amrywiol ffyrdd. Mae’r angen i fonitro ac adolygu cynhyrchiant perthnasoedd gwaith â chydweithwyr, asiantaethau a rhanddeiliaid yn rhan allweddol o’r safon hon.
Yng nghyd-destun y safon hon, yn ogystal â chydweithwyr, asiantaethau a rhanddeiliaid, gall ‘eraill’ gynnwys partneriaid allweddol yn ogystal â chymunedau lleol, cenedlaethol neu fyd-eang o’r un diddordebau neu arferion.
Mae’r safon hon yn addas i bob ymarferydd gwaith ieuenctid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu perthnasoedd gwaith â chydweithwyr, partneriaid a rhanddeiliaid
- sefydlu a chytuno â sefydliadau eraill ar gyd-nodau er budd pobl ifanc, a gweithio'n gydlynol er mwyn gwella cyfleoedd pobl ifanc i gyrraedd y nodau hyn
- cytuno â chydweithwyr, asiantaethau a rhanddeiliaid, y camau y mae'n rhaid i bawb eu cymryd i wella'r berthynas waith
- cytuno â'r trefniadau gwaith, yr amserlen a'r cyfrifoldebau ar gyfer cyflawni'r camau gweithredu ar y cyd
- darparu gwybodaeth i eraill yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- ymgynghori ag eraill wrth wneud penderfyniadau pwysig ac wrth gynnal gweithgareddau gwaith ieuenctid
- cyflawni'r cytundebau a wnaed ag eraill a diwygio'r trefniadau hyn fel eu bod bob amser yn gyfredol
- cytuno ar fesurau perfformiad allweddol a dulliau ar gyfer monitro a gwerthuso'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt
- monitro ac adolygu cynhyrchiant perthnasoedd gwaith ag eraill, gan geisio adborth a'i ddarparu, er mwyn canfod meysydd i'w gwella
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gwerth a manteision datblygu perthnasoedd gwaith cynhyrchiol ag eraill
- egwyddorion ac offer cyfathrebu effeithiol a sut i'w defnyddio â sefydliadau, cymunedau ac unigolion eraill
- pam ei bod yn bwysig cydnabod a pharchu rolau, cyfrifoldebau, a buddiannau cydweithwyr a rhanddeiliaid
- yr asiantaethau, y partneriaid a'r rhanddeiliaid perthnasol a natur eu diddordeb ym mherfformiad neu weithgareddau eich sefydliad
- pwy o blith yr asiantaethau, y partneriaid a'r rhanddeiliaid perthnasol sy'n gallu darparu gwybodaeth a chymryd camau tuag at wella cyfleoedd i bobl ifanc, eu strwythurau, a phwy yw'r cyswllt yno wrth ystyried materion strategol a gweithredol
- datblygiadau, ystyriaethau a phryderon o bwys i randdeiliaid mewn gwaith ieuenctid a sut i'w hadnabod
- pam bod rhaid ichi roi ystyriaeth i ddiwylliant a gwerthoedd sefydliadau eraill, yn enwedig o safbwynt eu blaenoriaethau wrth weithio â phobl ifanc
- pryderon, anghenion a dyheadau pobl ifanc yn y gymuned sy'n berthnasol i ddatblygu cyfleoedd i bobl ifanc, gan gynnwys gwella'r ddarpariaeth gwaith ieuenctid
- pwysigrwydd monitro datblygiadau ehangach o safbwynt rhanddeiliaid a sut i wneud hynny'n effeithiol
- datblygiadau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, amgylcheddol a chyfreithiol cyfredol a datblygol ym maes gwaith ieuenctid
- sut i adnabod a chytuno ar ba wybodaeth sy'n briodol ac yn gyfreithiol i'w darparu i eraill, a gofynion y sefydliad o safbwynt rhannu gwybodaeth
- gweithdrefnau cyfreithiol eich sefydliad o safbwynt cyfrinachedd, diogelu data a datgeliadau adroddadwy
- sut i adnabod achosion o wrthdrawiad buddiannau a thechnegau i'w mabwysiadu i ddelio â nhw neu eu dileu
- pwysigrwydd rhwydweithiau effeithiol, a chynllunio hirdymor a thymor canolig er mwyn cynnal cysylltiadau effeithiol mewn sefydliadau eraill
- sut i ddirprwyo cyfrifoldebau a dyrannu adnoddau wrth adeiladu rhwydweithiau
- pam ei bod yn bwysig cyfathrebu ynglŷn â chyflawni cytundebau neu unrhyw broblemau sy'n atal neu'n effeithio ar eich gallu i gyflawni'r cytundebau hynny
- peirianweithiau ar gyfer monitro ac adolygu effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith ag eraill
- sut i gael, rhannu a defnyddio adborth ar effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith
- y gofynion cyfreithiol, sefydliadol, moesegol a chodau ymarfer eraill sy'n berthnasol i weithio ag eraill a phobl ifanc gan gynnwys y cyd-destun lleol, cymdeithasol a gwleidyddol
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon