Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol wrth wneud gwaith ieuenctid

URN: YW03
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chyflawni’r gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol sy’n effeithio ar weithgareddau gwaith ieuenctid.

Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod gweithgareddau gwaith ieuenctid eich sefydliad yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol a’u bod yn gyson â’r gwerthoedd a’r egwyddorion. Byddwch yn datblygu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer eich sefydliad, yn monitro am unrhyw achosion o dorri’r rhain ac yn cymryd camau priodol pan fo angen.

Mae’r safon hon yn addas i bob ymarferydd gwaith ieuenctid. Mae hefyd yn berthnasol i’r rheini sy’n ymwneud â rheoli gweithgareddau gwaith ieuenctid yn eu sefydliad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. bod yn ymwybodol o'r gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, sefydliadol a moesegol perthnasol sy'n effeithio ar waith ieuenctid, a'r effaith ar eich gweithgareddau a'ch cyfrifoldebau gwaith ieuenctid chi neu'ch sefydliad
  2. datblygu polisïau a gweithdrefnau effeithiol i sicrhau bod eich sefydliad yn bodloni'r gofynion angenrheidiol
  3. cadarnhau bod y bobl berthnasol yn ymwybodol o'r polisïau a'r gweithdrefnau ar gyfer cyflawni eu rôl a'u bod yn glynu wrthynt
  4. monitro eich gweithgaredd eich hun neu'ch sefydliad am unrhyw achos o ddiffyg cydymffurfio ac effaith peidio â bodloni'r gofynion
  5. gweithredu i sicrhau bod y gweithgaredd gwaith ieuenctid yn bodloni'r holl ofynion perthnasol gan gynnwys adnabod unrhyw achosion o fethu â bodloni'n gofynion, adrodd amdanynt a'u cywiro
  6. darparu adroddiadau llawn am unrhyw achosion o fethu â bodloni'r gofynion i'r bobl berthnasol
  7. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau gwaith ieuenctid chi neu'ch sefydliad
  2. pwysigrwydd cyflawni'r gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol, ac effaith peidio â gwneud hynny
  3. gwerthoedd a diwylliant eich sefydliad a'u heffaith ar ei drefn lywodraethu
  4. disgwyliadau a phryderon amgylcheddol, cymdeithasol a moesegol cyfredol a datblygol sy'n berthnasol i waith ieuenctid
  5. ffyrdd y mae sefydliadau eraill sy'n gysylltiedig â gwaith ieuenctid yn rhoi sylw i bryderon a disgwyliadau amgylcheddol, cymdeithasol a moesegol cyfredol a datblygol
  6. polisïau a gweithdrefnau yn eich sefydliad chi a'ch maes gwaith ieuenctid a fwriedir i sicrhau bod y gofynion yn cael eu cyflawni
  7. y fframwaith cyfreithiol sy'n eich gwarchod chi ac eraill rhag dioddef camdriniaeth neu ymosodiad yn y gwaith
  8. ffyrdd y gallai'r gofynion beidio â chael eu bodloni, a'r risgiau bod hyn yn digwydd
  9. gweithdrefnau ar gyfer adrodd am unrhyw achosion o dorri'r gofynion
  10. gweithdrefnau ar gyfer delio ag achosion o ddiffyg cydymffurfio, gan gynnwys y gofynion angenrheidiol ar gyfer adrodd
  11. y prosesau ar gyfer cynnal y polisïau a'r gweithdrefnau perthnasol, ac i sicrhau eu bod yn dal i fod yn effeithiol
  12. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

* *


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council

URN gwreiddiol

LSI YW22

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; cyfreithiol; cyfreithlon; rheoleiddiol; moesegol; gofynion; cydymffurfio; cydymffurfiad; cydymffurfiaeth; gweithgareddau; polisïau; gweithdrefnau; ymarfer; cymorth; cefnogaeth; cefnogi gweithredu; rhoi ar waith; atal; adrodd