Cynorthwyo pobl ifanc i ddysgu ac ymgysylltu â’r broses gwaith ieuenctid

URN: YW02
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae pwysigrwydd deall sut mae pobl ifanc yn teimlo yn ogystal â’r hyn a wyddant ac y gallent wneud, yn un o’r gwerthoedd a’r egwyddorion y disgwylir i weithwyr ieuenctid eu deall a’u defnyddio wrth eu gwaith

Mae’r safon hon yn ymwneud â galluogi pobl ifanc i fynegi eu dyheadau, eu pryderon a’u nodau datblygu. Byddwch hefyd yn monitro gweithgaredd pobl ifanc er mwyn diogelu eu lles. Mae’r safon hon hefyd yn cynnwys eu cynorthwyo i flaenoriaethu eu nodau a chytuno ar y gefnogaeth y bydd ei hangen o bosibl a chyflawni hynny.

Mae’r safon hon yn addas i bob ymarferydd gwaith ieuenctid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cytuno a blaenoriaethu â phobl ifanc eu nodau, ac amlinellu unrhyw ddewisiadau sydd ar gael iddynt eu dewis i'w helpu i gyrraedd y nodau hyn
  2. cynorthwyo pobl ifanc i feddwl am y ffactorau a'r cyfyngiadau sy'n effeithio ar gynnydd y dewisiadau y cytunasant arnynt
  3. asesu gweithgareddau parhaus pobl ifanc am gyfleoedd dysgu a allai roi sylw i'w hanghenion
  4. cytuno â phobl ifanc y math o gymorth sy'n ofynnol a faint o gymorth sydd ei angen i gyrraedd eu nodau
  5. cynorthwyo i drefnu'r cymorth y cytunwyd arno, yn unol â'ch lefel awdurdod a'r gofynion sefydliadol
  6. monitro gweithgaredd pobl ifanc i sicrhau eu diogelwch corfforol a'u lles meddwl ac ymateb yn briodol i newidiadau mewn ymddygiad
  7. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. dulliau o feithrin cyd-ddealltwriaeth â phobl ifanc
  2. pam ei bod yn bwysig cysylltu â phobl ifanc ar eu telerau nhw
  3. pryderon a dyheadau arferol a fynegir gan bobl ifanc
  4. ffynonellau cymorth ar gyfer rhoi sylw i bryderon ac anghenion pobl ifanc
  5. pam ei bod yn bwysig galluogi pobl ifanc i ddewis a gosod eu nodau eu hunain, a datblygu eu hatebion eu hunain, a'r dulliau ar gyfer hwyluso'r broses hon
  6. pam dylech chi ddefnyddio gweithgareddau presennol pobl ifanc fel man cychwyn ar gyfer datblygu cyfleoedd
  7. anffurfiol, ffurfiol, dysgu o brofiad, cyfathrebu, dialog beirniadol a chyfleoedd dysgu eraill, a'r adnoddau cysylltiedig sydd ar gael
  8. sut caiff pobl ifanc eu cymell i gyrraedd eu nodau
  9. arddulliau cyfathrebu a thechnegau sy'n effeithiol i ddatblygu dialog â phobl ifanc
  10. canllawiau eich sefydliad ynglŷn ag amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, a chyfrinachedd
  11. materion risg a diogelwch personol, a sut i roi sylw i'r rhain
  12. eich rôl a lefel eich cyfrifoldeb a phwy i gysylltu â nhw mewn sefyllfaoedd lle gellid mynd y tu hwnt i'r rhain
  13. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Maw 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

LSI YW02

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; nodau; dewisiadau; opsiynau; dyheadau; datblygiad; datblygu; anghenion; mynegi; sylweddoli; gwireddu; emosiynol; sgiliau; gwerth; rhoi gwerth; cymorth; cefnogaeth; cefnogi; annog; lles