Sefydlu, meithrin a chynnal perthnasoedd â phobl ifanc
Trosolwg
Mae perthnasoedd cadarn â phobl ifanc yn hanfodol ar gyfer gwaith ieuenctid da.
Mae’n bwysig gwybod sut i sefydlu perthnasoedd o’r fath a hefyd sut gellir eu cynnal er mwyn i bobl ifanc ddysgu a datblygu.
Mae’r safon hon yn ymwneud â sefydlu, meithrin a chynnal perthnasoedd personol â phobl ifanc.
Mae’r safon hon yn addas i bob ymarferydd gwaith ieuenctid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu cyswllt â phobl ifanc gan ddefnyddio lleoliadau addas
- cychwyn a chynnal sgyrsiau â phobl ifanc ar adeg briodol ac mewn lle priodol
- rhoi i bobl ifanc wybodaeth am eich rôl a'ch cyfrifoldebau a sut gallech chi weithio â'ch gilydd
cytuno â phobl ifanc ynglŷn â'u rôl a'u cyfrifoldebau nhw
ymateb i unrhyw gwestiynau neu ystyriaethau a godir gan y bobl ifanc pan fyddant yn llunio cynigion a chynlluniau
- cynnal y gofynion moesegol, cyfreithiol a cytundebol priodol bob amser wrth ddelio â phobl ifanc
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- codau ymarfer, cyfreithiol, trefniadol sy'n berthnasol i weithio â phobl ifanc, a'u heffaith ar gyfer cyfathrebu â phobl ifanc
lleoliadau yn y gymuned lle mae pobl ifanc yn cyfarfod
pwysigrwydd meithrin ymddiriedaeth a chysylltiad â phobl ifanc, a'r dulliau o wneud hyn gydag amrywiol bobl ifanc
- gwahanol arddulliau a ffurfiau o gyfathrebu a allai fod yn briodol ar gyfer cyfathrebu â phobl ifanc, gan gynnwys sianelau electronig
- pwysigrwydd cyfathrebu heb eiriau, megis iaith gorfforol, a
sut mae eraill yn defnyddio ac yn dehongli iaith gorfforol mewn gwahanol ffyrdd - rhwystrau posibl rhag cyfathrebu, eu hachosion, a ffyrdd o'u goresgyn
- pwysigrwydd egluro beth yw eich disgwyliadau
- y risgiau posibl i'ch diogelwch personol, a ffyrdd o roi sylw i'r rhain
- gofynion ynglŷn â chyfrinachedd, a phwysigrwydd glynu wrth y rhain
- ffiniau eich cyfrifoldeb a'ch cymhwysedd personol, pryd dylech droi at bobl eraill, a sut i gael cyngor a chymorth
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid o safbwynt gofynion y safon hon