Gweithgareddau archwilio fforensig digidol uniongyrchol
Trosolwg
Defnyddir gweithdrefnau archwilio fforensig digidol i ddadorchuddio a dehongli data electronig i gynorthwyo'r ymchwiliad i faterion diogelwch gwybodaeth. Nod y broses yw cadw unrhyw dystiolaeth yn ei ffurf fwyaf gwreiddiol wrth gynnal ymchwiliad trefnus drwy gasglu, nodi a dilysu'r wybodaeth ddigidol er mwyn ail-greu digwyddiadau o'r gorffennol. Defnyddio data mewn llys barn yw'r cyd-destun gan amlaf, er y gellir defnyddio fforensig digidol mewn achosion eraill.
Mae'r safon hon yn cwmpasu'r cymwyseddau sy'n ymwneud â chyfarwyddo'r gwaith o reoli digwyddiadau diogelwch gwybodaeth, cynnal ymchwiliadau a gweithrediadau fforensig. Mae hyn yn cynnwys rheoli adnoddau, gweithgareddau a'r amcanion i'w cyflawni. Mae’n cynnwys pennu'r strategaeth a’r polisïau, a bod yn gwbl atebol am weithrediadau fforensig digidol llwyddiannus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn gwbl atebol am weithgareddau fforensig digidol
- diffinio’r strategaeth, polisïau a safonau ar gyfer gweithgareddau fforensig digidol
- arwain yr ymdrechion ymchwil fforensig digidol wrth fonitro ffynonellau gwybodaeth yn rhagweithiol o ran tueddiadau sy'n datblygu, bygythiadau diogelwch ac arferion gorau ym maes fforensig digidol
- trosi canfyddiadau ymchwil yn arferion fforensig digidol i wella gallu’r swyddogaeth fforensig ddigidol
- cyfarwyddo’r strategaeth adnoddau a datblygiad proffesiynol ar gyfer gweithgareddau fforensig digidol
- monitro ansawdd ac effeithiolrwydd gweithgareddau fforensig digidol, eu hadolygu’n feirniadol a gwneud argymhellion ar gyfer gwella lle bo’n briodol
- rhoi cyngor ac arweiniad amserol a gwrthrychol i eraill ar bob agwedd ar weithgareddau fforensig digidol gan gynnwys arferion gorau a chymhwyso’r gwersi a ddysgwyd
- datblygu a dogfennu prosesau cyfathrebu ar gyfer partïon mewnol ac allanol (e.e. y cyfryngau, gorfodi'r gyfraith, cwsmeriaid) mewn perthynas â gwaith fforensig digidol
- paratoi adroddiadau ffurfiol i uwch-reolwyr ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwaith fforensig digidol o ran datgelu a dehongli data electronig a chadw tystiolaeth
- arwain syniadau am ddisgyblaeth fforensig ddigidol, gan gyfrannu at arferion gorau mewnol ac at fforymau a gydnabyddir yn allanol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gyfarwyddo'r swyddogaeth fforensig ddigidol o fewn y sefydliad
- yr angen i gynghori ac arwain eraill ar bob agwedd ar weithgareddau fforensig digidol
- sut i drefnu, hyfforddi a pharatoi timau fforensig digidol i gynnal archwiliadau fforensig digidol
- sut y gellir cymhwyso gwersi a ddysgir i weithgareddau fforensig digidol
- pwysigrwydd sganio ymchwil i weld a oes bygythiadau newydd i ddiogelwch gwybodaeth ac am offer a thechnegau fforensig digidol newydd
- ffynonellau arferion gorau mewn gweithgareddau fforensig digidol
- yr angen i fonitro effeithiolrwydd fforensig digidol a'i wella'n barhaus o fewn y sefydliad
- pwysigrwydd adrodd a chyfathrebu'n effeithiol ar ganfyddiadau fforensig digidol i randdeiliaid o fewn y sefydliad a thu allan iddo
- sut i ddylunio a datblygu strategaeth, polisïau, cynlluniau a safonau ar gyfer gwaith fforensig digidol
- yr angen i sicrhau bod adolygiad amserol ac effeithiol o weithdrefnau fforensig digidol yn cael ei gynnal
- sut i gynnal dadansoddiad gwrthrychol o ganfyddiadau o weithgareddau fforensig digidol ac adrodd i noddwyr a rhanddeiliaid