Rheoli gweithgareddau archwilio fforensig digidol
Trosolwg
Defnyddir gweithdrefnau archwilio fforensig digidol i ddadorchuddio a dehongli data electronig i gynorthwyo'r ymchwiliad i faterion diogelwch gwybodaeth. Nod y broses yw cadw unrhyw dystiolaeth yn ei ffurf fwyaf gwreiddiol wrth gynnal ymchwiliad trefnus drwy gasglu, nodi a dilysu'r wybodaeth ddigidol er mwyn ail-greu digwyddiadau o'r gorffennol. Defnyddio data mewn llys barn yw'r cyd-destun gan amlaf, er y gellir defnyddio fforensig digidol mewn achosion eraill.
Mae'r safon hon yn diffinio'r cymwyseddau sydd eu hangen i arwain pob agwedd ar archwiliad fforensig digidol. Mae hyn yn cynnwys rheoli adnoddau, gweithgareddau a'r amcanion i'w cyflawni. Mae hyn yn cynnwys nodi’r polisïau a’r prosesau ar gyfer cynnal archwiliadau fforensig digidol i bennu natur y mater ac i nodi’r rhai sy’n gyfrifol, yn ogystal â diffinio polisïau a safonau sefydliadol sy’n ymwneud ag archwilio fforensig digidol a'u rhoi ar waith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- rheoli archwilwyr fforensig digidol wrth ddadansoddi a dehongli data cyfrifiadurol i ymchwilio i achos sylfaenol materion diogelwch gwybodaeth
- nodi a chadw tystiolaeth yn ei ffurf fwyaf gwreiddiol wrth gynnal ymchwiliad fforensig digidol trefnus
- adolygu a chymhwyso’r ddeddfwriaeth, y strategaeth, a'r polisïau, sy’n ymwneud â gweithgareddau fforensig digidol
- datblygu, rhoi ar waith a chynnal gweithdrefnau a thechnegau ar gyfer cynnal archwiliadau fforensig digidol
- gwneud argymhellion ar ba dechnegau ac offer fforensig digidol a gymeradwyir i’w defnyddio mewn archwiliadau fforensig digidol yn unol â gofynion sefydliadol
- bod yn dyst arbenigol er mwyn cyflwyno canfyddiadau archwiliad fforensig digidol os oes angen ar gyfer achosion sefydliadol a chyfreithiol
- nodi rhaglenni hyfforddi priodol a'u rhoi ar waith er mwyn cynnal effeithiolrwydd gweithgareddau archwilio fforensig digidol
- cynghori, mentora a goruchwylio aelodau llai profiadol o'r tîm archwilio fforensig digidol
- dadansoddi canfyddiadau o archwiliadau fforensig digidol mewn modd gwrthrychol a'u cyflwyno'n briodol i noddwyr, rhanddeiliaid a chyrff allanol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis a chaffael ystod o offer archwilio fforensig digidol i archwilio ystod eang o faterion diogelwch gwybodaeth
- yr ystod o broblemau a heriau a allai godi yn ystod gweithgareddau archwilio fforensig digidol
- sut i nodi a dewis yr offer a'r technegau mwyaf priodol ar gyfer mater diogelwch gwybodaeth penodol
- sut i ddewis archwilwyr fforensig digidol i reoli archwiliadau fforensig digidol penodol a bod yn gyfrifol amdanynt
- sut i sefydlu prosesau uwchgyfeirio, cyfathrebu a llinellau awdurdod ar gyfer materion diogelwch gwybodaeth
- sut i ddatblygu cynlluniau archwilio fforensig digidol i ymateb i ystod eang o faterion diogelwch gwybodaeth
- beth yw'r ffactorau mewnol ac allanol a allai effeithio ar weithgareddau archwilio fforensig digidol
- beth yw’r polisïau, rheoliadau, deddfwriaeth a safonau allanol sy’n berthnasol i weithgareddau archwilio fforensig digidol
- pwysigrwydd defnyddio gwersi a ddysgwyd er mwyn llywio gweithgareddau archwilio fforensig yn y dyfodol
- yr angen i gadw cofnod o ddigwyddiadau a chyfleu gwersi a ddysgwyd ar draws y tîm archwilio fforensig digidol
- yr angen i gynnal ymchwil i gael y wybodaeth ddiweddaraf am fygythiadau diogelwch gwybodaeth yn ogystal ag offer a thechnegau fforensig digidol newydd
- y dulliau fforensig digidol gorau posibl ar gyfer adennill tystiolaeth a'i chadw