Gweithgareddau profi diogelwch gwybodaeth uniongyrchol
Trosolwg
Y weithgaredd o asesu system i weld a oes gwendidau diogelwch yw profi diogelwch gwybodaeth. Mae profi diogelwch rhwydwaith neu seilwaith yn cynnwys asesu dyfeisiau rhwydwaith, gweinyddwyr, a gwasanaethau seilwaith rhwydwaith eraill fel Gwasanaeth Enw Parth (DNS) i weld a oes gwendidau diogelwch. Yn gyffredinol, mae profi diogelwch rhaglenni yn cyfeirio at brofi rhaglenni meddalwedd arferol neu fasnachol i weld a oes gwendidau diogelwch. Mae profi diogelwch rhaglenni ar y we yn canolbwyntio'n benodol ar raglenni sydd ar gwe, ac mae profi diogelwch rhaglenni symudol yn canolbwyntio ar brofi rhaglenni symudol.
Defnyddir rhai mathau cyffredin o brofion diogelwch. Fel arfer, mae asesiad o wendidau yn cynnwys sganio am faterion diogelwch. Defnyddir cyfuniad o gyfarpar awtomataidd a thechnegau asesu â llaw i gadarnhau a oes gwendid, ond heb fanteisio ar y gwendid hwn mewn gwirionedd.
Mae profion treiddio yn nodi gwendidau ac yn manteisio arnynt. Y nod yw efelychu ymosodwr go iawn a all dorri i mewn i system a dwyn neu addasu data neu effeithio ar argaeledd systemau. Mae profion amser cynnal yn cynnwys asesu'r system ar gyfer materion diogelwch o safbwynt defnyddiwr terfynol. Mae adolygu cod yn golygu asesu rhaglen drwy adolygu ei god ffynhonnell. Mae peidio ag adolygu cod yn gadael system yn agored i fwy o risg o fygythiadau mewnol maleisus.
Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio a phennu'r strategaeth gyffredinol ar gyfer profi diogelwch gwybodaeth o fewn y sefydliad i gynnal cadernid systemau gwybodaeth busnes. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod y strategaeth profi diogelwch gwybodaeth polisïau yn seiliedig ar weithdrefnau a phrosesau effeithiol a bod yr adnoddau yn eu lle i gyflwyno'r strategaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfarwyddo pob agwedd ar weithgareddau profi diogelwch gwybodaeth er mwyn sicrhau bod gweithrediadau profi effeithiol i gynnal lefelau uchel o gadernid diogelwch gwybodaeth yn unol â gofynion sefydliadol
- datblygu'r strategaeth a'r polisïau ar gyfer profi diogelwch gwybodaeth i fodloni gofynion sefydliadol
- diffinio’r achos busnes dros fuddsoddi yn y swyddogaeth profi diogelwch gwybodaeth er mwyn cynnal adnodd effeithiol ac addas o ran capasiti i brofi diogelwch gwybodaeth
- cynrychioli buddiannau’r sefydliad ar faterion sy’n ymwneud â phrofion diogelwch gwybodaeth, yn fewnol ac yn allanol
- ysgogi arloesedd mewn profion diogelwch gwybodaeth ar draws y sefydliad i wneud systemau gwybodaeth sefydliadol yn fwy cadarn
- rhoi rhaglen gwella ansawdd barhaus a arweinir gan ymchwil ar waith i gynnal effeithiolrwydd gweithgareddau profi diogelwch gwybodaeth
- hyrwyddo diwylliant o wella gweithgareddau profi diogelwch gwybodaeth yn barhaus yn unol â'r cyd-destun o ran bygythiadau a gwendidau sy'n newid
- arwain syniadau am brofion diogelwch gwybodaeth, gan gyfrannu at arferion gorau mewnol ac at fforymau a gydnabyddir yn allanol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y strategaethau profi diogelwch gwybodaeth sydd eu hangen i fodloni gofynion cadernid diogelwch gwybodaeth sefydliadol
- sut i ddatblygu strategaeth, polisïau, cynlluniau, prosesau, gweithdrefnau a safonau sy'n ymwneud â phrofion diogelwch gwybodaeth
- sut i wneud systemau gwybodaeth busnes yn fwy cadarn drwy brofion diogelwch gwybodaeth
- y bygythiadau a'r gwendidau mewnol ac allanol sy'n gyrru profion diogelwch gwybodaeth a sut i fynd i'r afael â nhw
- y ffactorau allanol a allai effeithio ar weithgareddau profi diogelwch gwybodaeth a sut i'w hadnabod
- sut i reoli'r berthynas â rhanddeiliaid mewnol a chyrff allanol sy'n ymwneud â phrofion diogelwch gwybodaeth
- sut i gydlynu adnoddau ar gyfer gweithrediadau profi diogelwch gwybodaeth
- sut i roi safonau sy'n ymwneud â phrofi a rheoli diogelwch gwybodaeth ar waith
- y risgiau i'r sefydliad a allai ddeillio o brofion diogelwch gwybodaeth o safon isel a sut i'w lliniaru
- yr arferion gorau ar hyn o bryd o ran profi diogelwch gwybodaeth
- sut i wella gweithgareddau profi diogelwch gwybodaeth yn barhaus i gynnal eu heffeithiolrwydd