Gweithredu strategaeth profi meddalwedd y sefydliad

URN: TECIS503501
Sectorau Busnes (Suites): TG a Thelathrebu
Datblygwyd gan: Tech Partnership
Cymeradwy ar: 31 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â phennu'r strategaeth gyffredinol ar gyfer profi meddalwedd o fewn y sefydliad i ddiwallu anghenion busnes. Mae'n ymwneud â sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau a phrosesau effeithiol yn sail i'r strategaeth a bod yr adnoddau yn eu lle i gyflwyno'r strategaeth.
Mae'r profwr meddalwedd arweiniol yn atebol i randdeiliaid mewnol ac allanol am ddatblygu datrysiadau meddalwedd cywir ac effeithiol ar draws y sefydliad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Creu safonau profi meddalwedd a'u rhoi ar waith i ddiwallu anghenion y sefydliad
  2. Dylunio prosesau profi meddalwedd yn unol â gofynion y sefydliad
  3. Sicrhau bod adnoddau ar gael i gyflwyno'r strategaeth profi meddalwedd
  4. Rheoli cydberthnasau â noddwyr a darparwyr allanol ar bob lefel i bennu'r flaenoriaeth o brofi meddalwedd yn y cylch bywyd datblygu
  5. Cyfrannu at hyrwyddo'r gallu i brofi o fewn y sefydliad
  6. Archwilio cyfleoedd i arloesi mewn gweithdrefnau profi meddalwedd i wella effeithlonrwydd ac ystwythder busnes

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Yr elfennau sy'n rhan o strategaeth profi meddalwedd
  2. Polisïau, cynlluniau, prosesau, gweithdrefnau a safonau sefydliadol cyfredol ar gyfer profi meddalwedd
  3. Y safonau allanol a'r amgylchedd rheoleiddio sy'n berthnasol i brofi meddalwedd
  4. Y ffactorau sy'n ymwneud â rheoli perthnasoedd â noddwyr a darparwyr allanol
  5. Sut i wella cynlluniau, prosesau a gweithdrefnau profi ar hyn o bryd ac yn y dyfodol
  6. Y camau sydd eu hangen i roi amgylcheddau profi aml-weinydd ar waith
  7. Goblygiadau datblygiadau technolegol sy'n dod i'r amlwg, tueddiadau economaidd a chymdeithasol ar ddatblygu a phrofi meddalwedd o fewn sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Tach 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

The Tech Partnership

URN gwreiddiol

TECIS503501

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Profi Meddalwedd