Datblygu cynlluniau profi manwl

URN: TECIS503402
Sectorau Busnes (Suites): TG a Thelathrebu
Datblygwyd gan: Tech Partnership
Cymeradwy ar: 31 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddatblygu cynlluniau ar gyfer profi cynhyrchion meddalwedd. Bydd cynllun y prawf yn diffinio rolau a chyfrifoldebau, amserlen profi prosiect, cynllunio profion a gweithgareddau dylunio, paratoi amgylchedd profi, profi risgiau a chynlluniau wrth gefn. Mae hyn yn cynnwys nodi gweithgareddau cynllunio profi dros gyfnod hir, nodi safonau a chanllawiau creu gweithdrefnau profi, nodi'r caledwedd, y feddalwedd a'r rhwydwaith sydd eu hangen i gefnogi amgylchedd profi, gan nodi gofynion data prawf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Adolygu'r fanyleb ar gyfer gofynion meddalwedd a nodi amcanion y prawf
  2. Cael dogfennaeth berthnasol, gan gynnwys safonau a chanllawiau ar gyfer creu'r fanyleb a'r weithdrefn brofi
  3. Dyrannu rolau a chyfrifoldebau ar gyfer gweithgareddau profi yn unol â safonau sefydliadol
  4. Rhoi gwybodaeth i'r tîm profi meddalwedd am y caledwedd, y meddalwedd a'r rhwydwaith prawf sydd eu hangen i gefnogi'r amgylchedd profi
  5. Adolygu strwythur system y feddalwedd sy'n cael ei phrofi a diffinio sut mae'r amgylchedd profi wedi'i osod
  6. Datblygu'r gofynion o ran data prawf i ddarparu profion ystyrlon yn unol â safonau sefydliadol
  7. Datblygu amserlen y prawf yn unol â safonau sefydliadol
  8. Cynhyrchu cynllun y prawf a dogfennaeth prosesau derbyn yn unol â safonau sefydliadol
  9. Cyfleu cynllun y prawf i randdeiliaid perthnasol
  10. Dylunio fformatau dogfennaeth recordio'r prawf yn unol â safonau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y gofynion sefydliadol ar gyfer cynllunio profion a dogfennaeth cofnodi
  2. Yr angen i ddiffinio rolau a chyfrifoldebau ar gyfer gweithgareddau profi meddalwedd yn glir yng nghynllun y prawf
  3. Ble i gael dogfennaeth berthnasol i gefnogi datblygiad cynllun y prawf
  4. Sut i adolygu strwythur system y feddalwedd a'r fanyleb gofynion i lywio cynllunio profion
  5. Sut i gynllunio a rheoli gweithgareddau gosod amgylchedd prawf
  6. Sut i greu amserlenni profi
  7. Pwysigrwydd nodi gofynion data prawf yn glir
  8. Sut i ddatblygu cynllun profi a'i roi ar waith
  9. Sut i adolygu cynllun y prawf yn erbyn amcanion
  10. Yr angen i ddiffinio'r gweithdrefnau olrhain diffygion a'r offer olrhain cysylltiedig
  11. Nodi'r gweithdrefnau profi mwy soffistigedig a ddefnyddir wrth ddylunio profion manwl

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Tach 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

The Tech Partnership

URN gwreiddiol

TECIS503402

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Profi Meddalwedd