Rheoli gweithgareddau profi meddalwedd
URN: TECIS503401
Sectorau Busnes (Suites): TG a Thelathrebu
Datblygwyd gan: Tech Partnership
Cymeradwy ar:
31 Maw 2018
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu'r seilwaith ar gyfer profi i ddiwallu anghenion busnes i brofi meddalwedd. Mae'n cynnwys rheoli sut y rhoddir strategaethau profi meddalwedd sefydliadol ar waith, gan gynnwys cydlynu'r staff a'r adnoddau eraill sydd eu hangen i weithredu'r strategaethau hynny. Mae'n cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i reoli a gweinyddu'r broses brofi yn effeithiol o un pen i'r llall, gan gynnwys diffinio'r prawf, ei weithredu ac adrodd arno.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cydgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i bennu gofynion profi a meini prawf derbyn
- Dylunio'r seilwaith ar gyfer profi meddalwedd i gyflawni amcanion profi
- Sefydlu a ffurfweddu'r amgylchedd profi yn unol â'r cynllun prawf
- Datblygu llinell amser ar gyfer profi i fodloni gofynion o ran yr amserlen a rhanddeiliaid
- Trefnu a monitro timau profi i gyflawni amcanion profi
- Dogfennu amcanion ac amserlen brofi yn unol â gweithdrefnau profi a'u dosbarthu i bersonél priodol
- Rheoli'r gwaith o adrodd am ddiffygion a nodwyd
- Dogfennu canlyniadau profi system i'w defnyddio yn y cyfnodau datblygu dilynol
- Gwerthuso prosesau profi a gwybodaeth a gasglwyd i lywio gweithgareddau profi yn y dyfodol
- Rheoli newidiadau i ofynion busnes neu brofi wrth i'r rhain godi
- Gwerthuso canlyniadau profi system i bennu pa mor dderbyniol yw'r system
- Rhoi diweddariadau i randdeiliaid ar statws gweithgareddau profi meddalwedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i roi profion safonol a methodolegau sicrwydd ar waith ar gyfer platfformau datrysiadau digidol gan gynnwys menter blaen a chefn swyddfa, apiau symudol a chynhyrchion ar y we
- Sut i reoli'r berthynas â rhanddeiliaid mewnol a chyrff allanol sy'n gysylltiedig â datblygu meddalwedd
- Y cyfyngiadau a'r ffactorau allanol sy'n effeithio ar brofi meddalwedd
- Sut i gymharu technegau profi ac offer profi awtomataidd, gan gynnwys nodweddion a phrosesau allweddol pob un o'r rhain
- Nodweddion allweddol gweithdrefnau sefydliadol sy'n gysylltiedig â'r broses brofi
- Yr amgylchedd profi meddalwedd, gan gynnwys gofynion y system
- Sut i ddadansoddi perfformiad y system neu'r rhaglen sy'n cael ei phrofi
- Sut i roi gwybod am ddiffygion a chamau rheoli diffygion
- Pwysigrwydd hysbysu rhanddeiliaid am gynnydd gweithgareddau profi meddalwedd
- Effaith newidiadau i ofynion busnes neu brofi ar weithgareddau profi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Tach 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
The Tech Partnership
URN gwreiddiol
TECIS503401
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Profi Meddalwedd