Dadansoddi a dehongli canlyniadau gweithgareddau profi meddalwedd
URN: TECIS503304
Sectorau Busnes (Suites): TG a Thelathrebu
Datblygwyd gan: Tech Partnership
Cymeradwy ar:
31 Maw 2018
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dadansoddi a dehongli canlyniadau profion yn erbyn gofynion swyddogaethol a busnes. Mae'n cynnwys nodi diffygion a gwneud argymhellion ar gyfer gwella. Mae hefyd yn cynnwys adrodd ar ganlyniadau profion i randdeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cynnal cofnodion cywir o brofion ac adroddiadau systemau
- Asesu canlyniadau profion yn erbyn meini prawf derbyn swyddogaethol a busnes a nodwyd
- Dadansoddi canlyniadau profion i nodi a nodweddu diffygion
- Defnyddio dadansoddiad o ganlyniadau profion i flaenoriaethu ymchwiliad a datrys problemau
- Cynnal dadansoddiad i nodi cydrannau neu ymarferoldeb meddalwedd sy'n profi nifer uwch o fethiannau prawf neu adroddiadau am broblemau
- Rhoi gwybodaeth am y gweithdrefnau profi sydd eu hangen er mwyn i'r tîm profi meddalwedd ymchwilio i fethiannau prawf a'u datrys
- Coladu a dogfennu meini prawf derbyn mewn profion a'r canlyniadau a ddisgwylir mewn profion
- Defnyddio dadansoddiad o ganlyniadau profion i gadarnhau a yw'r gweithdrefnau profi a weithredwyd yn rhoi cwmpas derbyniol i'r prawf o ran nodi gwallau yn ddigonol
- Cyfleu canlyniadau profion meddalwedd i ddefnyddwyr, noddwyr a datblygwyr i gynorthwyo'r broses o ddatblygu meddalwedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Cysyniadau a dulliau profi a sicrwydd; gan gynnwys integreiddio, system, straen, derbyn gan ddefnyddwyr, a phrofion atchweliad
- Sut i ddadansoddi manylebau a diffiniad o strategaeth brofi, cynlluniau profi ac achosion profi
- Ystod o ieithoedd rhaglennu ac amgylcheddau datblygu
- Beth yw ystyr profi a'r camau a'r bobl sy'n gysylltiedig
- Y methodolegau a'r dulliau profi meddalwedd a nodir mewn safonau sefydliadol
- Y gweithdrefnau, yr offer a'r technegau profi meddalwedd a nodir mewn safonau sefydliadol
- Pwysigrwydd dadansoddi canlyniadau profion a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol
- Pwysigrwydd cynnal a chadw dogfennaeth sy'n ymwneud â phrofi meddalwedd
- Priodoldeb gwahanol fathau o brofion ar gyfer gwahanol gydrannau mewn datrysiad meddalwedd
- Rôl profi fel rhan annatod o gylch bywyd datblygu meddalwedd
- Rôl profion derbyn gan fusnes a'r angen i gytuno ar feini prawf gyda defnyddwyr busnes, noddwyr a rhanddeiliaid
- Goblygiadau posibl profion anghywir, anghyflawn, annigonol a/neu amhriodol
- Pwysigrwydd gwirio cywirdeb, cyfoesedd, cyflawnder a pherthnasedd data a gwybodaeth a ddefnyddir yn ystod gweithgareddau profi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Tach 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
The Tech Partnership
URN gwreiddiol
TECIS503304
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Profi Meddalwedd