Datblygu a chynnal profion derbyn gan ddefnyddwyr

URN: TECIS503303
Sectorau Busnes (Suites): TG a Thelathrebu
Datblygwyd gan: Tech Partnership
Cymeradwy ar: 31 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cwmpasu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i gynllunio a chynnal profion derbyn yn rhan o'r broses brofi lle bydd cleientiaid yn penderfynu a ydynt am dderbyn rhaglen / system y feddalwedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Adolygu dogfennaeth am ofynion system i nodi'r meini prawf ar gyfer derbyn system
  2. Datblygu'r cynllun profi fod yn seiliedig ar ofynion system fel bod y prawf yn rhoi sylw llawn
  3. Adolygu a dilysu'r cynllun profi yn seiliedig ar feini prawf gorfodol, amodau, amcanion y system a gofynion
  4. Cyfleu'r cynllun profi i'r cleient a chytuno ar drefniadau ar gyfer cynnal y profion derbyn
  5. Hysbysu cynrychiolwyr priodol y cleientiaid ac aelodau'r tîm profi am y prawf derbyn a drefnwyd
  6. Paratoi'r amgylchedd profi ar gyfer profion derbyn gan gleientiaid yn unol â safonau sefydliadol
  7. Cynnal profion derbyn yn unol â'r cynllun prawf a gweithdrefnau sefydliadol
  8. Rhoi pob cylch profi ar waith gyda chynrychiolydd y cleient yn gweithredu mewn rôl defnyddiwr a defnyddio data cynrychioliadol o ddefnyddwyr
  9. Dilysu canlyniadau prawf derbyn yn erbyn y canlyniadau a ddisgwylir
  10. Rhoi gwybodaeth am ganlyniadau profion i'r cleient
  11. Cadarnhau cymeradwyaeth cleient a chael cymeradwyaeth i dderbyn system

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Rôl profion derbyn gan ddefnyddwyr o ran cael cadarnhad bod cleient yn derbyn y rhaglen feddalwedd sy'n cael ei datblygu a'i rhoi ar waith
  2. Bod gofynion y cleient yn cael eu defnyddio i nodi'r meini prawf derbyn ar gyfer cymeradwyo'r system feddalwedd gan y cleient
  3. Sut i ddatblygu cynllun prawf sy'n nodi gweithgareddau ac amseriad y profion derbyn gan ddefnyddwyr
  4. Sut i baratoi amgylcheddau profi at ddefnydd cleientiaid
  5. Y gwahanol brofion y gellir eu hymgorffori mewn profion derbyn gan ddefnyddwyr a sut i gymhwyso'r rhain
  6. Yr angen i brofi'r system drwy fabwysiadu rôl defnyddiwr
  7. Yr angen i brofi'r system drwy ddefnyddio data defnyddiwr cynrychioliadol
  8. Sut i sefydlu a dogfennu'r canlyniadau disgwyliedig ar gyfer pob prawf a gynhelir yn rhan o brofion derbyn gan ddefnyddwyr
  9. Sut i gymharu'r canlyniadau gwirioneddol a disgwyliedig a nodi unrhyw anomaleddau
  10. Yr angen i argymell addasiadau cod i'r cleient i fodloni'r meini prawf derbyn
  11. Yr angen i gadarnhau bod y cleient yn cymeradwyo system y feddalwedd a chael cymeradwyaeth fel carreg filltir ar gyfer cadarnhau bod y system feddalwedd yn cael ei chyflwyno

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Tach 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

The Tech Partnership

URN gwreiddiol

TECIS503303

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Profi Meddalwedd