Profi cynhyrchion meddalwedd
URN: TECIS503302
Sectorau Busnes (Suites): TG a Thelathrebu
Datblygwyd gan: Tech Partnership
Cymeradwy ar:
31 Maw 2018
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu sgriptiau prawf a'u gweithredu i wirio ymarferoldeb, defnyddioldeb, cydnawsedd, diogelwch a/neu berfformiad cynhyrchion meddalwedd. Mae hefyd yn cynnwys cofnodi cynnydd profion meddalwedd a dadansoddi a dehongli canlyniadau profion.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Paratoi amgylchedd profi yn unol â safonau sefydliadol
- Dewis offer profi awtomataidd fel y bo'n briodol i fodloni gofynion profi
- Dewis yr achosion prawf a'r sgriptiau awtomataidd i fodloni gofynion prawf
- Gwahanu rhaglen y feddalwedd yn fodiwlau y gellir eu rhedeg sy'n cynrychioli senarios byw ar gyfer profi
- Datblygu data prawf cynrychioliadol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cynnal arddangosiadau i adolygu canlyniadau disgwyliedig y profion yn erbyn meini prawf derbyn a dogfennaeth gofynion y system
- Gweithredu sgript prawf (â llaw neu awtomataidd) yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Paratoi log y prawf a'r daflen ganlyniadau yn unol â safonau sefydliadol
- Cofnodi cynnydd y prawf a'r diffygion a ddaeth i'r amlwg, gan ddefnyddio'r offeryn rheoli prawf cymeradwy
- Cymharu canlyniadau gwirioneddol profion â'r canlyniadau disgwyliedig ar ôl cwblhau pob uned o'r system a chofnodi'r canlyniadau
- Dadansoddi canlyniadau profion i ddatblygu dealltwriaeth glir o unrhyw ddiffygion a nodwyd
- Adolygu canlyniadau profion yn erbyn gofynion swyddogaethol ac anweithredol
- Crynhoi a dosbarthu canlyniadau, gan amlygu meysydd pryder critigol neu frys, a pharatoi adroddiad
- Mynegi'r diffygion a nodwyd a'u cyfleu i ddatblygwyr meddalwedd
- Uwchgyfeirio unrhyw broblemau a nodir gyda phrofion sydd y tu allan i lefel eich cyfrifoldeb
- Cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau sefydliadol wrth gynnal profion ar gynhyrchion meddalwedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Pwysigrwydd profi yng nghylch bywyd datblygu a phrofi meddalwedd
- Y prif ddulliau profi meddalwedd a ddefnyddir yn y sefydliad
- Polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer cynnal profion â llaw ac awtomataidd ar gynhyrchion meddalwedd a sut i’w cymhwyso
- Y gweithgareddau sy'n gysylltiedig â phrofi meddalwedd gan ddefnyddio offer a thechnegau penodol
- Pryd i ddewis offer profi awtomataidd neu rai llaw i brofi ymarferoldeb meddalwedd
- Sut i ddadansoddi a pharatoi data prawf sylfaenol
- Sut i ysgrifennu gweithdrefnau profi a'u gweithredu
- Yr allbynnau a ddisgwylir o'r broses brofi
- Safonau'r diwydiant sy'n briodol i gynnal profion meddalwedd
- Pwysigrwydd rheoli fersiynau ar gyfer achosion prawf a'r gweithdrefnau a'r offer ar gyfer rheoli gwahanol fersiynau
- Pryd i gyfeirio unrhyw broblemau sydd y tu allan i derfynau eich awdurdod ac at bwy
- Y gwahanol ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael ar gyfer cynnal profion a sut i gael gafael ar y rhain
- Sut mae'r fethodoleg datblygu meddalwedd yn effeithio ar y broses brofi
- Pwysigrwydd defnyddio'r achosion prawf, sgriptiau, rhaglenni a data diweddaraf
- Sut i ddefnyddio offer rheoli profion y sefydliad
- Y problemau a allai godi wrth brofi
- Sut i ddadansoddi canlyniadau profion a'u dehongli
- Sut i ail-greu senarios methiant
- Sut i gofnodi diffygion yn rhan o'r system olrhain diffygion
- Pwysigrwydd rhoi gwybodaeth am ganlyniadau profion i ddatblygwyr meddalwedd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Tach 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
The Tech Partnership
URN gwreiddiol
TECIS503302
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Profi Meddalwedd