Sefydlu prosiectau TG a'u harwain

URN: TECIS30151
Sectorau Busnes (Suites): TG a Thelathrebu
Datblygwyd gan: Tech Partnership
Cymeradwy ar: 29 Maw 2018

Trosolwg

Mae rheoli prosiect TG yn cynnwys y cymwyseddau sydd eu hangen i gynllunio, gweithredu, cyflwyno, monitro a rheoli'r holl weithgareddau a thasgau sy'n ofynnol yn ystod prosiect TG i gyflawni ei amcanion a nodwyd.
Mae'r safon hon yn cwmpasu strategaeth gyffredinol prosiectau TG a sut maent yn cael eu rheoli, eu cynllunio a'u cydlynu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dyrannu’r rolau a’r cyfrifoldebau rheoli sydd angen eu cyflawni i gyflwyno prosiect TG
  2. Sefydlu swyddfa prosiect TG i reoli gwybodaeth am y prosiect yn unol â gofynion sefydliadol
  3. Monitro gofynion adnoddau prosiectau TG i gynnal y gallu a'r adnoddau i gyflwyno cynhyrchion y prosiect yn unol â gofynion sefydliadol
  4. Dewis dull rheoli'r prosiect yn unol â gofynion busnes a gofynion y prosiect
  5. Negodi a chontractio gyda darparwyr allanol i sicrhau cynhyrchion a gwasanaethau sy'n gysylltiedig â phrosiectau yn unol â safonau sefydliadol
  6. Sefydlu safonau a phrosesau rheoli ansawdd prosiect i wella gwaith prosiect yn barhaus a chywiro diffygion prosiect
  7. Cynnal archwiliadau ansawdd ar gyfer prosiectau TG yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  8. Adolygu ac awdurdodi cyllidebau prosiect yn erbyn rheolaethau ariannol sefydliadol
  9. Cymeradwyo ceisiadau ar gyfer prosiectau a phenodi rheolwr prosiect i gyflawni orau yn erbyn amcanion y prosiect

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Strategaeth, polisïau a safonau'r sefydliad sy'n ymwneud â rheoli prosiectau TG
  2. Y berthynas rhwng rheoli prosiect TG unigol a'r strategaeth fusnes a rheoli gyffredinol
  3. Y codau ymarfer a'r ymddygiad proffesiynol sy'n ymwneud â chynllunio prosiectau TG a'u gweithredu
  4. Goblygiadau cyfreithiol posibl prosiect TG, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch
  5. Yr angen i ystyried cyfraith contract mewn cysylltiad â phrosiect TG, gan gynnwys ei effaith ar hawliau eiddo deallusol, cymalau cosb ac iawndal
  6. Dadansoddi a dehongli gwybodaeth yn ymwneud â thebygolrwydd ac effaith risgiau posibl ar draws y sefydliad
  7. Y broses o gael cymeradwyaeth ar gyfer cynlluniau gan noddwyr prosiectau
  8. Yr amgylchedd allanol y mae prosiectau TG yn gweithredu ynddo
  9. Y ffactorau sy'n gysylltiedig â blaenoriaethu gofynion prosiect sy'n gwrthdaro gan gwsmeriaid
  10. Y dulliau y gellir eu defnyddio i amcangyfrif risgiau a chyfleoedd yn y dyfodol
  11. Y gweithdrefnau i'w dilyn wrth adolygu sicrwydd ansawdd prosiect
  12. Yr angen i weithredu os bydd prosiectau'n methu â chyrraedd y lefelau ansawdd gofynnol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

The Tech Partnership

URN gwreiddiol

TECIS30151

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Cod SOC

2139

Geiriau Allweddol

Strategaeth prosiect, arwain prosiect, rheoli prosiect