Cynllunio'r strategaeth telathrebu digidol a'i chyflwyno
URN: TECIS1101501
Sectorau Busnes (Cyfresi): TG a Thelathrebu
Datblygwyd gan: Tech Partnership
Cymeradwy ar:
2018
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i gynllunio, rhoi ar waith a chynnal y strategaeth sefydliadol ar gyfer systemau telathrebu digidol.
Mae hyn yn cynnwys asesu’r galw yn y dyfodol am systemau telathrebu digidol a chynllunio’r gofynion newidiol o ran adnoddau a gallu. Mae hefyd yn cynnwys paratoi a chyflwyno'r cynllun strategol a cheisiadau cyllideb i uwch-randdeiliaid i'w cymeradwyo.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dadansoddi dwyster traffig defnyddwyr presennol i ragweld twf mewn traffig
- Asesu cyfleoedd i ehangu systemau telathrebu digidol neu radio gyda chwsmeriaid
- Asesu capasiti a gallu’r seilwaith presennol yn erbyn y galw a nodwyd
- Adolygu'r safonau a'r gofynion rheoliadol i'w dilyn wrth gynllunio systemau telathrebu digidol
- Dadansoddi gofynion busnes cwsmeriaid i baratoi'r achos busnes ar gyfer cyfathrebiadau digidol
- Paratoi'r cynllun strategol yn unol â gofynion sefydliadol
- Rhoi amcangyfrif o gostau adnoddau a hyfforddiant ac amserlenni yn unol â gofynion sefydliadol
- Cyflwyno'r cynllun strategol, a cheisiadau cyllideb i uwch-dimau a rhanddeiliaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gallu a chyfyngiadau technolegau telathrebu a radio safonol y diwydiant
- Pwysigrwydd monitro galw cwsmeriaid am dechnolegau telathrebu a radio
- Y ffactorau sy'n ymwneud â dadansoddi dwyster traffig i amcangyfrif gofynion y dyfodol ar gyfer datblygu systemau telathrebu a radio
- Y gweithdrefnau i'w dilyn i ddadansoddi'r galw gan gwsmeriaid ar hyn o bryd am systemau cyfathrebu telathrebu a radio a rhagweld meysydd twf
- Pwysigrwydd datblygu cynlluniau strategol i arwain gweithgareddau gwasanaethau telathrebu a radio
- Yr angen i gyflwyno cynlluniau strategol ar gyfer darparu systemau telathrebu a radio
- Y gweithdrefnau i'w dilyn ar gyfer amcangyfrif, datblygu a negodi cyllidebau i helpu'r gwaith o gynllunio telathrebu digidol yn strategol
- Y polisïau, y gofynion rheoleiddio a safonau'r sefydliad ar gyfer cynllunio systemau telathrebu digidol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
The Tech Partnership
URN gwreiddiol
TECIS1101501
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Telathrebu, Radio