Nodi diffygion mewn offer telathrebu digidol a'u cywiro

URN: TECIS1101404
Sectorau Busnes (Suites): TG a Thelathrebu
Datblygwyd gan: Tech Partnership
Cymeradwy ar: 31 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddatrys problemau a lleoli, gwneud diagnosis a chywiro diffygion cymhleth mewn offer telathrebu digidol neu gyfathrebu radio a rhoi cyngor a chymorth arbenigol ar ddiffygion. Mae'n cynnwys monitro telathrebu digidol neu signalau cyfathrebu radio i ganfod diffygion a phenderfynu ar gamau cywiro priodol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Monitro perfformiad systemau telathrebu digidol i nodi diffygion
  2. Dadansoddi hanes diffygion er mwyn sefydlu unrhyw batrymau o ran diffygion gan gynnwys holi personél fu'n ymwneud â thrwsio diffygion blaenorol os yn berthnasol
  3. Datrys problemau o ran cysylltedd system telathrebu digidol yn unol â manylebau'r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
  4. Dod o hyd i'r diffyg a'i gywiro neu ei uwchgyfeirio yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  5. Paratoi strategaethau ar gyfer nodi ac atgyweirio gan ddefnyddio cyngor gan bersonél peirianneg a thechnegol eraill
  6. Gwneud atgyweiriadau yn unol â deddfwriaeth, codau, rheoliadau a safonau perthnasol
  7. Rhoi gwybod i'r cwsmer am broblemau a datrysiadau posibl
  8. Gofyn am gefnogaeth wrth gefn gan wneuthurwr y cynnyrch pan fo angen
  9. Diweddaru cofnodion ffurfweddu a datrys problemau
  10. Adfer y safle gwaith i gyflwr diogel yn unol â gweithdrefnau sefydledig
  11. Rhoi gwybod i'r cwsmer bod y dasg wedi'i chwblhau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Proses a phwysigrwydd datrys problemau telathrebu a rhoi camau adfer ar waith
  2. Technegau diagnostig a datrys problemau Telathrebu a sut i'w cymhwyso
  3. Pwrpas cynnal dogfennaeth am gynnal a chadw, diffygion a gweithredu telathrebu menter
  4. Y ffactorau sy'n ymwneud â dewis a chymhwyso offer a chyfarpar i ddadansoddi systemau telathrebu menter i weld a oes ddiffygion
  5. Pwysigrwydd dogfennu gwybodaeth gywiro yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  6. Y gweithdrefnau i'w dilyn i ynysu diffyg
  7. Deddfwriaeth, codau, rheoliadau a safonau perthnasol
  8. Y broses i'w dilyn wrth fonitro perfformiad y system telathrebu
  9. Pam y dylech ddadansoddi hanes diffygion i lywio diagnosiso ddiffyg
  10. Y ffactorau sy;n gallu effeithio ar gysylltedd a pherfformiad y system telathrebu
  11. Y broses ar gyfer diweddaru cofnodion o nodi diffygion a'u cywiro

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Tach 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

The Tech Partnership

URN gwreiddiol

TECIS1101404

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Telathrebu, Radio