Cynnal profion derbyn offer telathrebu neu gyfathrebu radio

URN: TECIS1101402
Sectorau Busnes (Cyfresi): TG a Thelathrebu
Datblygwyd gan: Tech Partnership
Cymeradwy ar: 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn gysylltiedig â chynnal profion o sut mae safle yn derbyn offer Telathrebu neu Gyfathrebu Radio. Mae hyn yn cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i sicrhau parodrwydd i dderbyn system newydd drwy archwilio a phrofi offer i gadarnhau cydymffurfiaeth a pherfformiad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cael gafael ar yr holl ddogfennau gosod a chomisiynu perthnasol fel bod modd gwirio bod y system sydd wedi'i gosod yn cyd-fynd â'r hyn a gynlluniwyd ac a nodwyd
  2. Archwilio'r gosodiad newydd yn weledol i nodi unrhyw ddiffyg cydymffurfio â deddfwriaeth, codau, rheoliadau a safonau perthnasol
  3. Dewis offer profi priodol a chael gafael arnynt i gynnal profion derbyn perthnasol
  4. Paratoi'r amserlen dderbyn a'r meini prawf mewn ymgynghoriad â phersonél priodol
  5. Cynnal profion perfformiad a'u dadansoddi i nodi unrhyw achos o fethu â bodloni manylebau a gynlluniwyd a ffiniau gweithredu cymeradwy
  6. Profi mecanweithiau diogelu i sicrhau bod yn cwrdd â'r safon benodedig
  7. Profi gweithrediad larwm yn unol â safonau sefydliadol
  8. Cyfeirio unrhyw broblemau a nodwyd at bersonél priodol ar gyfer camau adferol
  9. Cwblhau dogfennaeth dderbyn a chofnodi holl weithdrefnau a chanlyniadau prawf derbyn gan ddilyn safonau sefydliadol
  10. Cael cymeradwyaeth ar gyfer prawf derbyn yn unol â safonau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Yr angen i ddarllen dogfennau gweithredu a'u dehongli, gosod a chynnal a chadw offer telathrebu neu radio
  2. Y ceblau, terfyniadau a strwythurau ategol y gellir dod ar eu traws yn y system dan sylw
  3. Y gweithdrefnau i'w dilyn i archwilio gosodiadau Telathrebu neu Gyfathrebu Radio i weld a ydynt yn cydymffurfio â deddfwriaeth, codau, rheoliadau a safonau perthnasol
  4. Y ffactorau sy'n gysylltiedig ag ymgymryd â phrofion perfformiad ar osodiadau Cyfathrebu Radio
  5. Y priodweddau trydanol a/neu optegol i'w mesur a sut i'w mesur
  6. Yr angen i ystyried materion iechyd a diogelwch yn y gweithle sy'n effeithio ar systemau ac offer profi
  7. Y gweithdrefnau i'w dilyn wrth ddefnyddio offer profi ar gyfer profion derbyn
  8. Y dulliau profi y gellir eu defnyddio i brofi larymau system
  9. Y broses uwchgyfeirio ar gyfer ymdrin ag unrhyw ddiffygion neu faterion eraill ar gyfer gweithgarwch adferol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

The Tech Partnership

URN gwreiddiol

TECIS1101402

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Telathrebu, Radio