Cynllunio darpariaeth cyfleusterau telathrebu digidol neu radio
URN: TECIS1101401
Sectorau Busnes (Suites): TG a Thelathrebu
Datblygwyd gan: Tech Partnership
Cymeradwy ar:
31 Maw 2018
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio sut y darperir cyfleusterau a gwasanaethau Telathrebu neu Radio i fodloni gofynion cleientiaid. Mae hyn yn cynnwys nodi datrysiadau priodol, arolygu'r safle(oedd) gosod, rheoli cyfarfodydd ar y safle gyda'r cleient, a chynhyrchu manylebau system a chynlluniau cyflwyno.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Asesu gofynion telathrebu neu gyfathrebu radio y cwsmer
- Adolygu hyd a lled y seilwaith telathrebu neu gyfathrebu radio sydd ei angen yn unol â safonau sefydliadol
- Asesu gosodiadau telathrebu cyfredol i bennu capasiti a gallu systemau presennol
- Dewis y datrysiad gorau i fodloni gofynion cwsmeriaid
- Cynnal arolwg o'r safle i asesu pa mor addas yw'r safle ar gyfer y datrysiad telathrebu neu gyfathrebu radio arfaethedig
- Datblygu opsiynau cynllunio ar gyfer y datrysiad arfaethedig i fodloni gofynion cwsmeriaid
- Neilltuo'r gweithgareddau gwaith ar gyfer y gwasanaethau telathrebu neu radio penodedig i'r tîm cyflwyno
- Amcangyfrif yr adnoddau, yr amseriad, a'r costau sy'n gysylltiedig â chyflwyno'r gwasanaethau radio neu telathrebu penodedig
- Cwblhau a dogfennu'r cynllun ar gyfer gweithgareddau gwaith yn unol â safonau a chanllawiau sefydliadol
- Cyflwyno'r cynllun i'r cwsmer a rhanddeiliaid perthnasol eraill a chael eu cymeradwyaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y ffactorau sy'n gysylltiedig â phennu gofynion telathrebu neu gyfathrebu radio gan gwsmeriaid
- Y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chynllunio telathrebu neu gyfathrebu radio
- Prif nodweddion systemau telathrebu neu radio cyfathrebu safonol y diwydiant
- Yr angen i gynnal arolygon safle i bennu pa mor addas yw safle ar gyfer cyfleusterau telathrebu neu radio
- Y gweithdrefnau i'w dilyn i ddatblygu cynlluniau ar gyfer systemau telathrebu neu radio
- Y gweithdrefnau i'w dilyn i amcangyfrif adnoddau, amseriad a chostau ar gyfer cynlluniau cyfleusterau telathrebu neu radio
- Yr angen i nodi'r gweithgareddau gwaith i dimau cyflwyno ar gyfer gweithgareddau gwasanaethau telathrebu neu radio
- Y ffactorau sy'n rhan o ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer darparu cyfleusterau telathrebu neu radio
- Safonau’r sefydliad ar gyfer cynllunio i ddarparu cyfleusterau telathrebu digidol neu gyfathrebu radio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Tach 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
The Tech Partnership
URN gwreiddiol
TECIS1101401
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Telathrebu, Radio