Uwchraddio technoleg telathrebu digidol

URN: TECIS1101309
Sectorau Busnes (Suites): TG a Thelathrebu
Datblygwyd gan: Tech Partnership
Cymeradwy ar: 31 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag uwchraddio a gweithgareddau cyflwyno technoleg newydd.
Mae'n cynnwys adolygu diweddariadau, asesu eu heffaith ar systemau presennol, cynllunio, cynnal a phrofi diweddariadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cynnal rhestr gyfredol o'r diweddariadau sydd ar gael
  2. Asesu effaith pob uwchraddiad ar systemau presennol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  3. Datblygu cynllun uwchraddio sy'n nodi unrhyw ddibyniaethau ac sy'n cynnwys cynllun wrth gefn ac i roi'r gorau i'r gwaith
  4. Asesu effaith y cynllun arfaethedig i nodi unrhyw doriadau mewn gwasanaeth i gwsmeriaid
  5. Rhoi gwybod i gwsmeriaid am unrhyw doriadau arfaethedig i wasanaeth i gael eu cymeradwyaeth i fwrw ymlaen.
  6. Hysbysu'r cwsmer a rhanddeiliaid perthnasol eraill cyn rhoi'r uwchraddiadau a gynllunnir ar waith
  7. Cynnal rhagbrofion uwchraddio mewn amgylchedd profi addas cyn eu rhoi ar waith
  8. Uwchraddio mewn amgylchedd byw yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a safonau sefydliadol
  9. Monitro cynnydd gweithgarwch uwchraddio i nodi unrhyw ganlyniadau nad ydynt yn cyd-fynd â disgwyliadau
  10. Cydymffurfio â'r cytundeb lefel gwasanaeth a ddiffiniwyd ar gyfer uwchraddio
  11. Monitro larymau rhwydwaith a gweithrediad y system mewn cydweithrediad â'r cwsmer i gadarnhau effeithiolrwydd y broses newid
  12. Cynnal yr holl weithrediadau diweddaru gan ddilyn gweithdrefnau diogelwch y sefydliad a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ac unrhyw ofynion sy'n gysylltiedig â safle penodol
  13. Hysbysu'r holl bartïon perthnasol am ganlyniadau'r gweithgaredd uwchraddio
  14. Cofnodi'r holl waith a wnaed a phrofi canlyniadau yn unol â safonau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Yr angen i gadw rhestr o'r uwchraddiadau sydd ar gael gan werthwyr a thrydydd partïon
  2. Rhwydweithiau telathrebu safonol y diwydiant a phensaernïaeth systemau offer a'u galluoedd a'u nodweddion trin traffig
  3. Pam mae'n bwysig cysylltu â staff technegol eraill a chwsmeriaid ar faterion gweithredol sy'n ymwneud ag uwchraddio technoleg a systemau
  4. Y ffactorau sy'n gysylltiedig ag uwchraddio caledwedd a meddalwedd offer Telathrebu
  5. Y paramedrau sy'n sail ar gyfer profi llwyddiant y gweithgaredd uwchraddio
  6. Gweithdrefnau, llawlyfrau a manylebau sefydliadol a ble i ddod o hyd iddynt
  7. Nodweddion allweddol yr offer telathrebu sy'n cael ei uwchraddio
  8. Nodweddion allweddol rhwydweithio sy'n seiliedig ar IP a systemau monitro rhwydwaith
  9. Ymwybyddiaeth o ddiogelwch a sut i ddefnyddio rhagofalon i leihau, rheoli neu ddileu peryglon
  10. Y broses i'w dilyn wrth ymdrin â sefyllfaoedd annisgwyl o ran diogelwch
  11. Y gofynion technegol, y cyfyngiadau a'r materion rheoli ar gyfer unrhyw gofyniad i uwchraddio ar gyfer cwsmeriaid
  12. Pam mae angen profi uwchraddiadau ar ôl eu rhoi ar waith
  13. Yr angen i wirio gofynion caledwedd yn rhan o waith uwchraddio meddalwedd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Tach 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

The Tech Partnership

URN gwreiddiol

TECIS1101309

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Telathrebu, Radio