Gwneud gwaith cynnal a chadw a gwaith atgyweirio a gynlluniwyd i geblau ffibr optegol

URN: TECIS1101307
Sectorau Busnes (Suites): TG a Thelathrebu
Datblygwyd gan: Tech Partnership
Cymeradwy ar: 31 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn gysylltiedig â chynnal a chadw ar sail cyflwr a gweithgareddau atgyweirio a gynlluniwyd ar gyfer ceblau trawsyrru cebl ffibr optegol i sicrhau bod rhwydwaith ar gael a thrawsyriad rhwydwaith o ansawdd uchel. Mae'n cynnwys cynnal profion cynnal a chadw ac atgyweiriadau a gynlluniwyd a gwneud gwaith cynnal a chadw ar sail cyflwr yr offer a ddefnyddir mewn mannau presenoldeb (POP).


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Adolygu'r cynllun cynnal a chadw i asesu'r tasgau cynnal a chadw i'w cyflawni
  2. Trefnu'r holl offer profi optegol gofynnol, gan gynnwys adlewyrchydd parth amser optegol (OTDR), mesurydd pŵer a mesurydd golau, a gwirio eu bod yn gweithio ac wedi'u graddnodi yn unol â manylebau'r gwneuthurwr
  3. Cynllunio patrolio a gwyliadwriaeth o'r llwybr cebl ffibr optegol i fodloni'r cynllun cynnal a chadw
  4. Profi ceblau ffibr optegol drwy ddefnyddio dulliau profi cymeradwy
  5. Gwerthuso canlyniadau'r profion i asesu ymarferoldeb y gydran neu'r offer optegol a pherfformiad y system optegol
  6. Dadansoddi canlyniadau profion i ddatblygu cynlluniau gwaith i gryfhau llwybrau a nodi meysydd i'w hatgyweirio
  7. Cydgysylltu â’r Ganolfan Gweithredu Rhwydweithiau (NOC) cyn ymgymryd â gweithgareddau atgyweirio a gynlluniwyd fel bod amser penodol ar gyfer cynnal y gweithgaredd atgyweirio
  8. Trefnu'r holl offer angenrheidiol ar gyfer atgyweiriadau ffibr optegol, gan gynnwys cau uniadau, cysylltwyr, sbleiswyr a holltwyr
  9. Cynnal gweithgareddau atgyweirio a gynlluniwyd o fewn terfynau amser diffiniedig a chytundebau lefel gwasanaeth (CLG)
  10. Rhoi gwybod am unrhyw elfennau trydydd parti sydd angen eu cynnal a'u cadw gan ddilyn gweithdrefnau'r sefydliad
  11. Cynnal profion i gadarnhau effeithiolrwydd y gwaith atgyweirio a gynlluniwyd
  12. Cofnodi'r holl waith a wnaed a phrofi canlyniadau yn unol â safonau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Egwyddorion cyfryngau trafnidiaeth optegol a chyfathrebu cebl ffibr optegol
  2. Nodweddion ffibr optegol gan gynnwys plygiant, polareiddio, gwanhau a gwasgaru
  3. Y gwahanol fandiau tonfedd a ddefnyddir ar gyfer cyfathrebu optegol a'u nodweddion o ran defnyddioldeb a cholli trawsyriad
  4. Y gwerthoedd dylunio nodweddiadol a'r ymylon ar gyfer cryfder ac ansawdd signal trawsyrru optegol
  5. Ymarferoldeb offer optegol safonol y diwydiant gan gynnwys; cit hollti, mecanyddol a chyfuno, llewys amddiffyn, stripiwr ffibr, plastr wedi'i atgyfnerthu â ffibr, uniadu
  6. Ymarferoldeb offer profi optegol gan gynnwys adlewyrchydd parth amser optegol (OTDR), mesurydd pŵer a mesurydd golau
  7. Y gwerthoedd gorau a ddisgwylir ar gyfer canlyniadau profion OTDR, mesurydd pŵer a mesurydd golau
  8. Yr angen i ddaearu offer telathrebu
  9. Sut i gynnal yr elfen ddaearu ar gyfer offer telathrebu
  10. Y broses safonol o dorri ffosydd, gosod ceblau ffibr optegol, sbleisio, uniadu, chwythu ac ôl-lenwi ar gyfer gosod ceblau ffibr optegol
  11. Y gwahanol fathau o gysylltwyr ffibr optegol y gellir eu defnyddio, a'u cyfyngiadau
  12. Y gwahanol ddulliau terfynu ffibr a sut i'w cymhwyso

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Tach 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

The Tech Partnership

URN gwreiddiol

TECIS1101307

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Telathrebu, Radio