Gosod antenâu radio a'i ffurfweddu
URN: TECIS1101305
Sectorau Busnes (Suites): TG a Thelathrebu
Datblygwyd gan: Tech Partnership
Cymeradwy ar:
2018
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod antenâu radio. Mae hyn yn cynnwys gosod antena radio a phrofi ystod o strwythurau sefydlog neu symudol, gan gynnwys cerbydau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cynllunio gofynion gosod drwy adolygu manylebau antena perthnasol a manylion safle cyfathrebu radio
- Cynllunio ar gyfer cydosod y system antena i fodloni gofynion gosod
- Asesu’r risgiau a achosir gan unrhyw beryglon ar safle penodol a chymryd camau ataliol gan ddilyn safonau sefydliadol a chydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol
- Gwirio bod y cyfarpar sydd i'w ddefnyddio ar gyfer gosod yn gweithio'n iawn ac wedi'i raddnodi'n gywir
- Cydosod, gosod ac alinio antena a pharatoi llinell fwydo i fodloni gofynion gosod
- Cynnal profion i wirio cysylltedd a chryfder y signal
- Dadansoddi canlyniadau profion i nodi, a lle bo modd, cywiro fethiannau o ran cysylltedd
- Dilyn gweithdrefnau sefydliadol i roi gwybod am unrhyw fethiant sydd heb ei gywiro o ran cysylltedd
- Cofnodi'r holl waith a wnaed a phrofi canlyniadau yn unol â safonau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y gwahanol fathau o antena radio y gellir eu defnyddio ar gyfer gwahanol raglenni ac amgylcheddau
- Arfer presennol y diwydiant ar gyfer gosod antena gan gynnwys daearu a diogelu rhag mellt
- Gweithdrefnau ac offer safonol y diwydiant sydd eu hangen i brofi antena radio
- Nodweddion dulliau profi offerynnau ac offer a gofynion perfformiad
- Y ddeddfwriaeth, codau ymarfer a chytundebau ffurfiol eraill sy'n effeithio'n uniongyrchol ar weithredu a phrofi antena ac offer Cyfathrebu Radio
- Y cydrannau cyffredinol a gosodiad antena radio a llinellau bwydo
- Sut y cymhwysir safonau amledd radio (RF) ac ymbelydredd electromagnetig (EMR) a gofynion iechyd a diogelwch penodol
- Yr effaith ar ddefnyddio a phrofi offer Cyfathrebu Radio
- Y materion a'r heriau nodweddiadol sy'n digwydd wrth osod antena telathrebu radio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
The Tech Partnership
URN gwreiddiol
TECIS1101305
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Telathrebu, Radio