Monitro offer telathrebu digidol o bell

URN: TECIS11013011
Sectorau Busnes (Suites): TG a Thelathrebu
Datblygwyd gan: Tech Partnership
Cymeradwy ar: 31 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â ffurfweddu a monitro o bell ar gyfer systemau Telathrebu digidol. Mae hyn yn cynnwys ymateb i larymau, cynhyrchu tocynnau diffyg, a pherfformio diagnosis a chamau lliniaru.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Ffurfweddu offer monitro o bell a larymau yn unol â safonau sefydliadol
  2. Monitro systemau rhwydwaith telathrebu o bell i wirio monitorau am amodau gwallau yn unol â safonau sefydliadol
  3. Cynhyrchu a diweddaru tocynnau diffyg electronig ar gyfer pob larwm rhwydwaith telathrebu yn unol â safonau sefydliadol
  4. Cynnal diagnosis o achos sylfaenol larymau rhwydwaith telathrebu yn unol â safonau sefydliadol
  5. Neilltuo neu uwchgyfeirio'r broses o ddatrys diffygion a nodwyd drwy fonitro o bell yn unol â safonau sefydliadol
  6. Dogfennu pob digwyddiad a adroddir drwy systemau rheoli rhwydwaith telathrebu o bell yn unol â safonau sefydliadol
  7. Cynnal logiau o ddiffygion a ganfuwyd a gwneud atgyweiriadau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Egwyddorion gweithredu rhwydweithiau telathrebu, gan gynnwys: parth, llwybro, pyrth, protocolau rhwydwaith eraill, TCP/IP, a diogelwch haenau trafnidiaeth (TLS)
  2. Y problemau cyffredin o ran perfformiad a'r gwallau a all ddigwydd mewn rhwydweithiau telathrebu a sut i nodi'r rhain drwy dechnegau monitro o bell
  3. Offer a thechnegau rheoli rhwydwaith telathrebu safonol y diwydiant a monitro o bell
  4. Y weithdrefn i'w dilyn i gynhyrchu tocynnau diffyg ar gyfer digwyddiadau telathrebu digidol a nodwyd drwy fonitro o bell
  5. Pam mae angen nodi a dehongli tueddiadau mewn graffiau monitro, defnydd a data am berfformiad y rhwydwaith
  6. Yr angen i gymhwyso technegau datrys anawsterau a datrys problemau i ymchwilio i ddigwyddiadau systemau rhwydwaith telathrebu
  7. Y weithdrefn i'w dilyn i roi offer monitro o bell ar waith i sicrhau bod yr holl ddata systemau telathrebu am berfformiad a digwyddiadau yn cael ei ddal
  8. Safonau'r sefydliad ar gyfer monitro offer telathrebu digidol o bell

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Tach 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

The Tech Partnership

URN gwreiddiol

TECIS11013011

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Telathrebu, Radio