Cynnal offer cyfathrebu radio
URN: TECIS11013010
Sectorau Busnes (Suites): TG a Thelathrebu
Datblygwyd gan: Tech Partnership
Cymeradwy ar:
31 Maw 2018
Trosolwg
Mae'r safon hon yn gysylltiedig â chynnal a chadw offer cyfathrebu radio. Mae hyn yn cynnwys profi offer cyfathrebu radio, canfod diffygion a monitro.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cytuno ar yr amser ymateb ar gyfer cytundebau lefel gwasanaeth gyda'r cwsmer
- Cael gafael ar y fanyleb a'r lluniadau cyfredol o'r offer radio i'w cynnal yn unol â safonau sefydliadol
- Trefnu mynediad i'r safle yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Defnyddio dulliau a phrofion canfod diffygion mewn offer radio yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Asesu opsiynau i gywiro diffyg a hysbysu'r cwsmer am argymhellion ar gyfer cywiro diffygion
- Cynnal gwaith atgyweirio gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a safonau sefydliadol
- Dilyn gweithdrefnau sefydliadol i roi gwybod am unrhyw ddiffygion sydd heb eu cywiro
- Cynnal profion i gadarnhau bod y gwaith atgyweirio yn datrys y diffyg sy'n cael ei drwsio
- Gwneud gwaith cynnal a chadw a gweithrediadau profi gan ddilyn gweithdrefnau diogelwch y sefydliad a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- Cofnodi'r holl waith cynnal a chadw a wneir yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Ble i gael gafael ar ddogfennaeth ar gyfer gweithredu, gosod a chynnal a chadw offer cyfathrebu radio
- Pa offerynnau cyfathrebu radio ac offer maes sy'n briodol ar gyfer amgylchedd cyfathrebu radio
- Y weithdrefn i'w dilyn ar gyfer paratoi, gweithredu a chynnal a chadw offer cyfathrebu radio ac offer maes
- Y peryglon sy'n gysylltiedig ag ymbelydredd amledd radio (RF).
- Rôl rhagofalon gwrth-statig a sut i'w cymhwyso
- Ymarferoldeb a phrif egwyddorion gweithredu offer trosglwyddydd radio
- Ymarferoldeb a phrif egwyddorion gweithredu system derbynnydd radio
- Gweithrediad a phwrpas offer profi system radio
- Sut i ddehongli ystyr canlyniadau profion offer radio amrywiol
- Egwyddorion profi perfformiad a thechnegau canfod diffygion mewn offer cyfathrebu radio
- Gweithdrefnau a safonau'r sefydliad ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio offer cyfathrebu radio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Tach 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
The Tech Partnership
URN gwreiddiol
TECIS11013010
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Telathrebu, Radio