Cynhyrchu dogfennau digidol gwell
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio meddalwedd dogfennau digidol i greu dogfennau cynhwysfawr sy'n seiliedig ar destun gan ddefnyddio dulliau cydweithredol o gynhyrchu dogfennau a chyd-awduro. Mae cynhyrchu dogfennau digidol cydweithredol cynhwysfawr yn gofyn am ddefnyddio ardaloedd storio a rennir a rhaglenni meddalwedd a nwyddau cwmwl sy'n cefnogi cyd-awduro a golygu. Mae hyn yn cynnwys newid gosodiadau diofyn, addasu'r rhyngwyneb i ddefnyddiwr a mewnosod sylwadau a marcio newidiadau mewn dogfennau. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai y mae angen iddynt gynhyrchu dogfennau testun cynhwysfawr ar y cyd ac sydd wedi cael eu cyd-awduro yn seiliedig i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Newid gosodiadau diofyn i deilwra meddalwedd dogfennau digidol ar gyfer cydweithio a chyd-awduro
Gosod priodweddau dogfennau ar gyfer cyd-awduro a rheoli fersiynau
Creu, defnyddio ac addasu templedi ar gyfer gwahanol fathau o ddogfennau
Cyfuno gwybodaeth o fewn dogfen o ystod o ffynonellau
Gosod nodau tudalen mewn dogfen er hwylustod
Storio ac adalw ffeiliau dogfennau yn effeithiol, yn unol â chanllawiau a chonfensiynau lleol lle maent ar gael
Addasu rhyngwynebau defnyddwyr meddalwedd dogfennau digidol i gefnogi anghenion cydweithio sefydliadol
Adolygu dogfennau drwy farcio newidiadau i nodi a derbyn newidiadau
Mewnosod a dileu sylwadau ac ymateb iddynt i reoli adborth i gyd-awduron
Diffinio, diweddaru a chyhoeddi templedi ac arddulliau dogfennau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Dewis a defnyddio cynlluniau tudalennau ac adrannau priodol i gyflwyno ac argraffu dogfennau sy'n cynnwys nifer o dudalennau ac adrannau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sut i ddadansoddi gofynion strwythur ac arddull ar gyfer y ddogfen ddigidol sy'n cael ei chynhyrchu ar y cyd
Pa fathau o wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer y ddogfen a sut ddylai'r rhain gael eu cysylltu neu ei hintegreiddio
Sut i gyfuno ac uno gwybodaeth o feddalwedd arall neu fwy nag un dogfen
Cyfrifoldebau pob cyd-awdur
Y technegau sydd eu hangen i greu a defnyddio templedi ar gyfer ffurfiau safonol o ddogfen ddigidol a sut i'w cymhwyso
Sut i gadw trefn ar reoli fersiynau mewn dogfennau
Sut i farcio newidiadau a'u hadolygu
Sut i gymharu dogfennau a'u huno i gefnogi'r gwaith o rannu dogfennau a chydweithio
Sut i ddefnyddio sylwadau i roi adborth mewn dogfennau cydweithio
Sut i ddefnyddio nodweddion adolygu i farcio dogfennau
Yr angen i olygu dogfennau mewn ymateb i adborth gan awduron
Sut i ddefnyddio nodweddion awtomeiddio i wella effeithlonrwydd
Sut i ddefnyddio nodweddion prawfddarllen i wella cywirdeb