Creu a golygu dogfennau digidol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio rhaglenni meddalwedd a nwyddau cwmwl i greu dogfennau digidol sylfaenol sy'n seiliedig ar destun. Mae creu dogfennau yn cynnwys mewnbynnu, strwythuro, fformatio a gwirio gwybodaeth o fewn meddalwedd dogfennau digidol. Mae hefyd yn golygu ffurfweddu meddalwedd prosesu geiriau i sefydlu strwythurau tudalennau. Mae hefyd yn cynnwys allbynnu, argraffu a rhannu ffeiliau dogfen prosesydd geiriau. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen creu, golygu a chynhyrchu dogfennau testun i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cyrchu a ffurfweddu meddalwedd cynhyrchu dogfennau digidol i gynhyrchu dogfennau gyda'r gosodiad tudalen, y fformat, yr arddull a'r iaith ofynnol
Creu dogfennau digidol newydd yn unol â gofynion sefydliadol
Defnyddio mewnbwn bysellfwrdd i fewnbynnu testun yn gywir i ddogfennau digidol
Fformatio nodau a pharagraffau gan ddefnyddio swyddogaethau fformatio i gynhyrchu'r cynllun gofynnol
Defnyddio offer golygu i addasu cynnwys dogfen a'i wella
Ychwanegu rhifau tudalennau at ddogfennau
Creu ac addasu tablau i drefnu testun neu wybodaeth rifiadol mewn rhesi a cholofnau
Gwirio sillafu a gramadeg testun dogfen
Storio ac adalw ffeiliau dogfen yn unol â gofynion
Dewis a defnyddio cynllun tudalen priodol i weld ac argraffu dogfennau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Y wybodaeth sydd angen ei chreu mewn dogfennau digidol
Pa fformatio i'w ddefnyddio i wella sut y cyflwynir dogfennau digidol
Sut i reoli maint tudalen, cynllun yr ymylon a chyfeiriadedd gan ddefnyddio swyddogaethau meddalwedd dogfennau digidol
Sut i newid gosodiadau i reoli strwythur dogfennau digidol a sut maent yn edrych
Sut i fewnbynnu testun i ddogfennau digidol
Sut i olygu testun mewn dogfennau drwy ddefnyddio nodweddion golygu safonol
Sut i ddefnyddio ystod o swyddogaethau meddalwedd sylfaenol i gynhyrchu dogfennau digidol arferol
Yr offer golygu sy'n briodol i'r math o wybodaeth, er enghraifft: dewis, copïo, torri, gludo, dadwneud, ail-wneud, llusgo a gollwng, darganfod, disodli, mewnosod, dileu, maint, tocio, lleoli
Sut i storio ac adalw ffeiliau dogfen
Sut i ychwanegu, mewnosod a dileu tablau, rhesi a cholofnau
Sut i ychwanegu a threfnu rhifau tudalennau mewn dogfennau
Sut i storio ac adalw ffeiliau dogfen
Sut i wirio sillafu a gramadeg mewn dogfennau
Sut i newid gosodiadau iaith mewn meddalwedd dogfennau digidol