Defnyddio macros a thempledi i awtomeiddio meddalwedd taenlenni

URN: TECHDUSS3
Sectorau Busnes (Suites): Defnyddwyr TG
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio macros a thempledi i awtomeiddio meddalwedd taenlenni. Mae hyn yn cynnwys sefydlu macros i gyflawni tasgau a thempledi ailadroddus i ryngweithio'n well â'r defnyddiwr a sut mae'n edrych. Mae'n cynnwys defnyddio nodweddion ac offer taenlenni i ddelweddu data drwy ddefnyddio siartiau a graffiau. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen creu macros i awtomeiddio swyddogaethau taenlen i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi gofynion awtomeiddio rhaglen y daenlen gyda rhanddeiliaid

  2. Dylunio model o daenlen i awtomeiddio'r swyddogaethau gofynnol

  3. Paratoi cynllun i ddarparu'r dilyniannau macro gofynnol

  4. Gweithredu templedi i hwyluso'r gwaith o facro brosesu data yn unol â gofynion

  5. Dylunio'r fformiwlâu a'r swyddogaethau angenrheidiol i ddarparu'r allbynnau sydd eu hangen

  6. Datblygu macros taenlen yn unol â gofynion

  7. Profi bod macros yn darparu'r canlyniadau angenrheidiol

  8. Defnyddio offer taenlenni i weithredu macro-weithrediad yn gywir

  9. Cadw macros i'w hailddefnyddio mewn taflenni gwaith eraill yn unol â gofynion sefydliadol

  10. Gweithredu templedi siartiau a graffiau i awtomeiddio'r broses o gynhyrchu siartiau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Pa gamau awtomeiddio sydd eu hangen i'w gweithredu mewn gweithrediadau taenlenni

  2. Prif egwyddorion macro-ddatblygu taenlenni

  3. Sut i ddylunio modelau awtomeiddio taenlenni

  4. Sut i ddylunio macros i'w defnyddio mewn taenlenni

  5. Sut i adeiladu a chofnodi macros taenlenni

  6. Sut i gadw a defnyddio macros taenlenni

  7. Sut i ddidoli a hidlo data yn rhan o awtomeiddio gweithrediadau taenlen

  8. Sut i ddefnyddio templedi siartiau taenlenni

  9. Sut i integreiddio gweithrediadau taenlenni

  10. Sut i nodi cyfeiriadau celloedd at ddefnydd arwahanol mewn macros taenlennu

  11. Sut i weithio gyda chyfresi data lluosog mewn taenlenni

  12. Yr angen i brofi unedau macro i sicrhau eu bod yn gweithredu'n gywir

  13. Sut i weithredu profion defnyddioldeb o dempled integredig a system daenlenni a gefnogir gan macro

  14. Yr angen i ddefnyddio data cynrychioliadol wrth brofi gweithdrefnau awtomeiddio taenlenni

  15. Sut i ddyrannu macros i barau offer


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECHDUSS3

Galwedigaethau Perthnasol

TGCh i ddefnyddwyr

Cod SOC

2000

Geiriau Allweddol

Rheoli data, taenlen