Creu fformiwlâu a siartiau mewn taenlenni
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio meddalwedd taenlenni i greu fformiwlâu a siartiau i reoli ac arddangos data. Mae hyn yn golygu creu dolenni a chyfeiriadau ar draws taflenni gwaith, a defnyddio'r rhain i greu'r fformiwlâu gofynnol i brosesu a rheoli data. Mae'n cynnwys defnyddio nodweddion ac offer taenlenni i ddelweddu data drwy ddefnyddio siartiau a graffiau. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen creu fformiwlâu i brosesu data a chynhyrchu siartiau a graffiau drwy ddefnyddio meddalwedd taenlenni i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Nodi gofynion rhaglenni taenlenni i ddiwallu anghenion sefydliadol
Mewnbynnu, mewngludo a golygu data taenlenni yn gywir
Cyfuno a chysylltu data ar draws taflenni gwaith i fodloni gofynion
Storio ac adalw ffeiliau taenlenni yn effeithiol
Creu fformiwlâu manwl i brosesu data'n gywir mewn taenlenni
Dewis arddulliau siart a graff i arddangos taenlen yn unol â'r gofynion
Cynhyrchu a labelu siartiau a graffiau i ddarparu delweddiadau data gofynnol
Cadw ac allgludo siartiau taenlenni a graffiau i'w defnyddio mewn dogfennau a chyflwyniadau allanol yn unol â gofynion sefydliadol
Gweld a oes gwallau mewn graffiau a siartiau taenlenni gan wneud cywiriadau yn ôl yr angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sut i nodi pa graffiau a siartiau sydd eu hangen i arddangos gwybodaeth sydd wedi'i storio
Sut i strwythuro taenlenni
Sut i fewngludo data i daenlenni o ffynonellau allanol
Sut i nodi pa fath o siart neu graff i'w ddefnyddio i arddangos gwybodaeth mewn taenlenni
Sut i ddylunio fformiwlâu i fodloni gofynion cyfrifo
Sut i ddod o hyd i wallau mewn fformiwlâu taenlenni
Sut i gadw ac allgludo siartiau neu graffiau a roddwyd mewn taenlenni
Sut i sefydlu strwythur ac ymarferoldeb taenlenni integredig sy'n defnyddio taflenni gwaith cysylltiedig
Sut i nodi cyfeiriadau celloedd i'w defnyddio mewn fformiwlâu
Sut i greu templedi a'u rhoi mewn taenlenni
Sut i labelu siartiau a graffiau
Y fformatau ffeil safonol ar gyfer rhannu taenlenni gan gynnwys ffeiliau CSV
Y problemau safonol sy'n gallu codi gyda thaenlenni a sut i'w cywiro (gan gynnwys gwallau mewn fformiwlâu a chyfeiriadau cylchol)