Creu taenlenni gyda data a'u diweddaru

URN: TECHDUSS1
Sectorau Busnes (Suites): Defnyddwyr TG
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu a defnyddio taenlenni i fewnbynnu a phrosesu data. Mae hyn yn cynnwys creu a fformatio taflenni gwaith, mewnbynnu data a chadw ffeil y daenlen. Mae'n cynnwys defnyddio nodweddion ac offer taenlen i brosesu ac arddangos gwybodaeth yn ogystal â fformatio ac argraffu allbynnau taenlen. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen mewnbynnu a phrosesu data gan ddefnyddio meddalwedd taenlen i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cytuno ar y gofynion o ran data ac ymarferoldeb ar gyfer taenlen newydd neu gyfredol gyda rhanddeiliaid

  2. Creu taflenni gwaith newydd gyda phenawdau ar golofnau a rhesi i fewnbynnu data yn unol â gofynion

  3. Fformatio taenlenni gwaith, rhesi, colofnau a chelloedd i fodloni gofynion

  4. Mewnbynnu a golygu gwybodaeth yn gywir mewn taenlenni

  5. Defnyddio offer a thechnegau taenlenni i grynhoi gwybodaeth ofynnol a'i harddangos

  6. Defnyddio swyddogaethau a fformiwlâu safonol i fodloni gofynion cyfrifo

  7. Profi a dadfygio taenlenni i gadarnhau eu bod yn gweithredu yn unol â'r gofynion

  8. Dewis a defnyddio cynllun priodol ar gyfer tudalen i gyflwyno'r wybodaeth sydd ei hangen ar daenlen

  9. Cadw ac adalw taenlenni mewn storfeydd priodol a rennir neu rai lleol yn unol â safonau sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Nodi pa wybodaeth sydd ei hangen i'w threfnu a'i storio yn rhaglen y daenlen

  2. Sut i greu taenlen newydd

  3. Sut i fewnbynnu ac arddangos y wybodaeth ofynnol i ddiwallu anghenion

  4. Sut i ddefnyddio fformiwlâu ac offer safonol i arddangos a threfnu gwybodaeth mewn taenlen

  5. Sut i gynhyrchu taenlenni syml

  6. Sut i fformatio celloedd, rhesi a cholofnau gan gynnwys alinio

  7. Sut i osod a fformatio mathau o rifau a nifer y lleoedd degol

  8. Sut i ddewis arddull ffont

  9. Sut i ychwanegu borderi a graddliwio at daenlenni

  10. Sut i ddefnyddio offer a thechnegau i gyflwyno gwybodaeth mewn taenlen

  11. Sut i fewnbynnu, golygu a threfnu gwybodaeth rifiadol mewn taenlen

  12. Y fformiwlâu a'r swyddogaethau safonol a ddefnyddir i reoli data mewn taenlenni

  13. Nodweddion sylfaenol cydrannau taenlenni (gan gynnwys, celloedd, rhesi, colofnau, tabiau, a thudalennau neu ddalenni gwaith)

  14. Sut i osod cynllun taenlen i ddiwallu anghenion

  15. Sut i wneud yn siŵr bod gwybodaeth mewn taenlen yn gywir

  16. Sut i storio ffeiliau taenlenni a'u hadalw


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECHDUSS1

Galwedigaethau Perthnasol

TGCh i ddefnyddwyr

Cod SOC

2000

Geiriau Allweddol

Rheoli data, taenlen