Nodi problemau technoleg ddigidol arferol a'u datrys
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â nodi a datrys problemau technoleg ddigidol arferol. Mae'n cynnwys datrys problemau cyffredin a gallu cyflawni ystod o weithdrefnau safonol. Mae'r rhain yn cynnwys gwirio prosesau sy'n cael eu cynnal, nodi defnydd o ddisgiau, cau ac ailddechrau yn ddiogel, edrych ar gôd gwallau, a gwiriadau bywyd batri ar ddyfeisiau di-wifr a phecynnau batri. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n gorfod nodi problemau technoleg ddigidol arferol a'u datrys i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu'n rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Nodi, dosbarthu a chofnodi problemau technegol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Mynd i'r afael â chyfrifiaduron sy'n gweithio'n araf drwy wirio prosesau a defnydd o ddisg i nodi ffynonellau problemau
Glanhau disg galed drwy ddefnyddio offer meddalwedd yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cau'n ddiogel ar adegau pan mae sgrîn wedi rhewi neu'n las yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Ailgychwyn cyfrifiaduron yn y modd diogel i nodi codau gwall yn ofalus i gynllunio atebion i broblemau
Nodi codau gwall caledwedd a meddalwedd dyfeisiau a gweld beth yw eu hystyr yn unol â chanllawiau gweithgynhyrchwyr
Defnyddio'r rheolwr tasgau i gau â llaw rhaglenni meddalwedd sydd wedi rhewi
Archwilio cysylltiadau rhyngrwyd ac argaeledd rhwydwaith i nodi problemau sy'n ymwneud ag argaeledd rhwydwaith a'r rhyngrwyd a'u perfformiad
Gwirio perfformiad batris dyfeisiau symudol i nodi problemau o ran perfformiad a'u datrys
Gwirio cysylltiadau â chamerâu a seinyddion atodedig, gyrwyr meddalwedd a statws i gywiro perfformiad gwael neu broblemau eraill
Uwchgyfeirio problemau na allwch eu cywiro eich hun yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Pwysigrwydd nodi a dosbarthu problemau ar gyfer datrys neu uwchgyfeirio
Sut i ailgychwyn cyfrifiadur yn ddiogel
Y prif resymau pam mae cyfrifiaduron yn gweithio'n araf
Sut i gynnal dadansoddiad disg galed a glanhau
Sut i gael mynediad at y rheolwr tasgau a'i ddefnyddio i gau rhaglenni meddalwedd â llaw
Y gwahanol ddulliau cychwyn sydd ar gael i droi cyfrifiadur ymlaen
Sut i nodi codau gwall a gynhyrchir gan systemau technoleg ddigidol diffygiol
Sut i weld beth yw ystyr codau gwall i nodi problemau ac atebion
Sut i ailgychwyn cyfrifiadur sydd wedi rhewi yn y modd diogel
Sut i wirio perfformiad batris dyfeisiau symudol gan gynnwys gliniaduron, tabledi a ffonau symudol
Sut i wirio cysylltiadau a gosodiadau sain
Sut i wirio defnydd o ddisg a glanhau disg galed
Ffynonellau cymorth i helpu i ddatrys problemau technegol arferol
Y gweithdrefnau sefydliadol i'w dilyn i uwchgyfeirio ar gyfer problemau technegol