Awtomeiddio cyflwyniadau digidol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag awtomeiddio cyflwyniadau digidol drwy ddefnyddio pecynnau meddalwedd safonol y diwydiant. Mae hyn yn cynnwys defnyddio meistri sleidiau, ychwanegu hyperddolenni, defnyddio a chreu templedi, a chreu cyflwyniadau awtomataidd y gellir eu haddasu. Mae hefyd yn cynnwys ychwanegu adroddiadau at gyflwyniadau. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen awtomeiddio cyflwyniadau digidol gan ddefnyddio meddalwedd safonol y diwydiant i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cytuno ar y gofynion ar gyfer awtomeiddio cyflwyniad digidol gyda rhanddeiliaid
Defnyddio hyperddolenni i gysylltu â chyfryngau digidol mewnol ac allanol a ffynonellau ar-lein mewn cyflwyniadau digidol i fodloni gofynion
Rheoli fformat sleidiau drwy ddefnyddio meistri sleidiau i roi arddull sefydliadol ar waith mewn cyflwyniadau
Mabwysiadu templedi i ddarparu strwythur a ddiffiniwyd ymlaen llaw i gyflwyniadau digidol yn unol â safonau sefydliadol
Creu templedi newydd ar gyfer llywio strwythur cyflwyno digidol yn unol â gofynion sefydliadol
Rhagolygu cyflwyniadau drwy ddefnyddio nodweddion ymarfer i ddatblygu'r amser a'r arddull cyflwyno gofynnol i fodloni gofynion y gynulleidfa
Creu sioe sleidiau wedi'i theilwra i awtomeiddio cyflwyniad er mwyn ei dangos yn awtomataidd
Ychwanegu adroddiadau sain at gyflwyniadau digidol yn unol â gofynion sefydliadol
Cadw cyflwyniadau mewn storfeydd priodol a rennir neu rai lleol yn unol â safonau sefydliadol
Cyflwyno cyflwyniadau digidol gan ddefnyddio nodweddion chwarae awtomataidd yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sut i nodi'r gofynion ar gyfer cyflwyniad digidol
Sut i gymhwyso fideos i gyflwyniadau sleidiau digidol
Sut i weithio gyda dulliau cyflwyno
Sut i greu a gweithio gyda thempledi mewn cyflwyniadau digidol
Y safonau hygyrchedd sy'n diffinio anghenion hygyrchedd pob cynulleidfa
Y cyfyngiadau sy'n gallu effeithio ar gyflwyniad digidol
Sut i ddefnyddio gwiriwr hygyrchedd i sicrhau bod pawb yn deall y cyflwyniad
Pwysigrwydd rhagolygu ac ymarfer cyflwyniadau digidol awtomataidd
Y nodweddion sioe sleidiau y gellir eu gweithredu ar gyfer cyflwyniadau digidol
Sut i greu sioe sleidiau awtomataidd y gellir ei haddasu
Sut i wneud cyflwyniad digidol i ddiwallu anghenion y gynulleidfa