Creu cyflwyniadau digidol gwell
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu cyflwyniadau digidol gwell drwy ddefnyddio pecynnau meddalwedd safonol y diwydiant. Mae hyn yn cynnwys creu cyflwyniadau, ac ychwanegu trawsnewidiadau ac animeiddiadau ar sleidiau. Mae hefyd yn cynnwys defnyddio offer dylunio a fformatio i drefnu cynnwys yn ogystal â mewngludo asedau cyfryngau digidol i gyflwyniadau. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen creu cyflwyniadau digidol safonol gan ddefnyddio meddalwedd safonol y diwydiant i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Nodi'r gynulleidfa darged ar gyfer cyflwyniad digidol i arwain gofynion dylunio
Cytuno ar ddiben a manyleb y cyflwyniad gyda rhanddeiliaid
Dewis templedi, themâu a chynlluniau sefydliadol priodol i arddangos cynnwys yn unol â safonau sefydliadol
Mewnosod ffeiliau cyfryngau mewn cyflwyniadau digidol yn unol â gofynion
Ychwanegu nodiadau at sleidiau i roi arweiniad clir i gyd-gyflwynwyr
Ychwanegu effeithiau trawsnewid sleidiau i sleidiau cyflwyno digidol i wella'r ddarpariaeth yn unol â safonau sefydliadol
Creu tablau, siartiau a graffiau a'u mewngludo i gyflwyniadau digidol yn unol â gofynion
Cadw cyflwyniadau mewn storfeydd priodol a rennir neu rai lleol yn unol â safonau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Pwy yw'r gynulleidfa ar gyfer y cyflwyniad digidol arfaethedig
Beth yw'r gofynion ar gyfer cyflwyniadau
Y gwahanol gynlluniau a themâu y gellir eu cymhwyso i sleidiau
Sut i roi themâu a chynlluniau ar waith mewn sleidiau
Sut i gymhwyso effeithiau gweledol i sioeau sleidiau a rhagolygon
Sut i fewnosod clipiau fideo a sain mewn cyflwyniadau digidol
Sut i weithredu effeithiau animeiddio i wella dilyniant sleidiau
Sut i roi tablau a siartiau ar waith mewn cyflwyniadau digidol
Sut i ychwanegu effeithiau trawsnewid a synau
Sut i gyflwyno sleidiau fel sioe sleidiau
Sut i ychwanegu nodiadau siaradwr a'u hargraffu
Sut i storio ffeiliau cyflwyno mewn storfeydd a rennir neu rai lleol