Asesu'r defnydd o gydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag asesu'r defnydd o gydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol i helpu i gyflawni amcanion sefydliadol. Mae'n cynnwys gweithredu'r strategaeth sefydliadol ar gyfer cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol a monitro'r defnydd ohono. Mae hefyd yn cynnwys gwerthuso effeithiolrwydd cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol o ran hyrwyddo a darparu gwasanaethau busnes. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen asesu'r defnydd o gydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gweithredu strategaeth cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol y sefydliad yn unol â gofynion sefydliadol
Monitro'r defnydd o rwydweithiau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol yn unol â safonau sefydliadol
Cynorthwyo'r gwaith o reoli cymuned y cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol i gynnal enw da sefydliadol ac ymddiriedaeth
Cyfrannu at ddatblygu adnoddau gwybodaeth effeithiol ar gyfer cydweithio
Gwerthuso effeithiolrwydd gwasanaethau busnes a ddarperir drwy blatfformau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol i gynhyrchu metrigau ar gyfer rhanddeiliaid
Casglu ac adolygu sgoriau, adolygiadau ac argymhellion ar-lein i gynorthwyo'r gwaith o ddewis offer TG a rhwydweithiau cymdeithasol
Cynhyrchu adroddiadau ymgysylltu cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol a delweddau gweledol i gyfathrebu perfformiad cyfryngau cymdeithasol ar-lein i randdeiliaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sut i werthuso potensial, cyfyngiadau a pha mor addas yw offer cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol
Sut mae sefydliadau'n rhoi gwerth ariannol ar rwydweithiau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol
Defnyddio metrigau i fesur gwerth gwasanaeth busnes a ddarperir drwy ddefnyddio platfformau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol
Y confensiynau ar gyfer adrodd straeon a chyfathrebu ar-lein
Y gwahanol ddadansoddiadau o gydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol sydd ar gael i sefydliadau i fesur ymgysylltiad â busnesau
Y ffactorau sy'n gallu achosi problemau o ran enw da ac ymddiriedaeth ar-lein a sut i roi gwybod amdanynt
Pwysigrwydd canllawiau ar gyfer cynnwys ar-lein mewn amgylcheddau cydweithio
Y cysylltiadau rhwng platfformau a gwefannau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol
Y gofynion cyfreithiol ar gyfer rhannu data digidol drwy blatfformau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol
Y canllawiau rheoleiddio, materion moesegol ac ymddygiad ar gyfer sefydliadau sy'n defnyddio platfformau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo a darparu gwasanaethau busnes
Sut i adolygu a dehongli dadansoddeg cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol
Sut i ddatblygu adroddiadau ymgysylltu cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol